Gall tîm pêl-droed Wrecsam sicrhau eu lle yng ngemau ail gyfle’r Gynghrair Genedlaethol wrth iddyn nhw deithio i Dagenham & Redbridge heddiw (dydd Sadwrn, Mai 29, 12.30yp).

Byddai buddugoliaeth yn ddigon i gadarnhau eu lle, a phe bai Notts County hefyd yn colli, bydden nhw’n sicr o gael gêm gartref yr wythnos nesaf.

Ond byddai’r sefyllfa’n gymhleth pe baen nhw’n colli, gan fod pedwar tîm o fewn dau bwynt iddyn nhw yn y tabl.

Ond mae dau ohonyn nhw’n herio’i gilydd, ac mae angen i un arall wynebu Notts County, felly bydd sawl un ohonyn nhw’n colli pwyntiau.

Roedd Dagenham hefyd yn y ras am y gemau ail gyfle yr wythnos ddiwethaf cyn iddyn nhw golli am y tro cyntaf ers wyth gêm yn Chesterfield.

Gemau’r gorffennol

Pe bai Wrecsam yn ennill neu’n cael gêm gyfartal, dyma fyddai’r tro cyntaf iddyn nhw fod yn ddi-guro yn erbyn eu gwrthwynebwyr mewn tair gêm yn olynol.

Enillodd Wrecsam yn Dagenham & Redbridge am y tro cyntaf yn 2017 ac fe enillon nhw yno eto y tymor canlynol.

Ond colli o 2-1 wnaethon nhw y tymor diwethaf.

Luke Young yw’r unig chwaraewyr yng ngharfan Wrecsam i sgorio dwy gôl yn erbyn Dagenham & Redbridge.