Enillodd Jonny Clayton saith gêm yn olynol i guro Gary Anderson o 8-1 yn yr Uwch Gynghrair Dartiau a chadw ei obeithion o gyrraedd y gemau ail gyfle’n fyw.

Roedd gan y Cymro Cymraeg 46 oed gyfartaledd tri dart o fwy na 100, gan lwyddo ag wyth ymgais allan o 14 at ddwbwl.

Mae e tu ôl i Jose de Sousa ar wahaniaeth gemau sydd wedi’u hennill, gyda’r ddau ohonyn nhw ar 16 pwynt yr un yn y tabl.

Byddan nhw’n herio’i gilydd heno.

Methodd Anderson â saith ymgais at ddwbwl ar ôl iddyn nhw fod yn gyfartal 1-1 ar ddechrau’r ornest, ac mae’r canlyniad yn golygu mai cael a chael fydd hi i Anderson wrth geisio gorffen yn y pedwar uchaf.

Dyma’r tro cyntaf ers y pandemig i gemau gael eu cynnal gerbron torf ym Milton Keynes.

Mae Clayton bellach yn y pedwerydd safle ar ôl codi uwchben Dimitri Van den Bergh o Wlad Belg, oedd wedi colli o 8-6 yn erbyn Jose de Sousa.

‘Hwb enfawr’

“Roedd hi’n hollol wych,” meddai Jonny Clayton ar ôl chwarae gêm gynta’r noson gerbron y dorf.

“Roedd hi’n hwb enfawr oherwydd y dorf sy’n gwneud y dartiau.

“Roedd hi’n anhygoel eu cael nhw ’nôl ac roedd yr awyrgylch yn wych.

“Roedd gyda fi sawl person yn gweiddi i fi ac roedd ambell Ddraig Goch, felly mae’n eiliad balch.

“Ro’n i mor nerfus cyn i fi fynd arno ond wnes i ymlacio ac fe wnaeth y dartiau gadw i fynd.

“Fe wnes i gymryd fy nghyfleoedd a dw i wedi gwneud fy ngwaith.

“Dw i’n cwrso fy mreuddwyd a bydda i’n cario ymlaen i droi lan dros y tri diwrnod nesaf a gweithio’n galed.”

Y plastrwr sy’n dywysog y dartiau

Alun Rhys Chivers

Mae Jonny Clayton yn ddyn ei filltir sgwâr, yn Gymro i’r carn, yn blastrwr… ac yn un o chwaraewyr dartiau gorau’r byd