Mae clybiau pêl-droed Abertawe a Brentford yn galw am roi’r hawl i fwy o gefnogwyr fynd i rownd derfynol gemau ail gyfle’r Bencampwrieth yn Wembley ddydd Sadwrn (Mai 29).

Dim ond 10,000 fydd yn cael mynd – 5,000 yr un – tra bod 21,000 wedi cael bod yn gêm derfynol Cwpan FA Lloegr yn yr un stadiwm yn ddiweddar.

Mae hyn o ganlyniad i gyfyngiadau Covid-19 wrth i gefnogwyr gael dychwelyd yn raddol i’r byd chwaraeon wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio.

Yn ôl Julian Winter, prif weithredwr yr Elyrch, mae’r penderfyniad yn “annheg”.

“Yn ddiweddar, fe wnaeth ffeinal Cwpan yr FA groesawu dros 20,000 o gefnogwyr oedd wedi helpu i greu awyrgylch gwych i’r ddau dîm – rhywbeth sydd wedi’i golli’n fawr dros y 14 mis diwethaf,” meddai.

“Cefnogwyr sy’n cynnal y gêm rydyn ni i gyd yn ei charu, ac mae’n drueni mawr na all mwy ohonyn nhw fod yn Wembley i weiddi dros eu tîm ar achlysur a fydd yn wych i’r holl glybiau sydd ynghlwm wrth benwythnos y gemau ail gyfle.”

Yn ôl Jon Varney, prif weithredwr Brentford, mae’r penderfyniad yn “anghredadwy ac anghyfiawn”, ac mae’n dweud nad oes gan yr awdurdodau pêl-droed y grym i newid y sefyllfa heb sêl bendith Llywodraeth Prydain.

Mae deiseb wedi’i sefydlu gan gefnogwyr, tra bod Lincoln a Blackpool hefyd wedi mynegi eu siom ynghylch faint o docynnau fydd ar gael i’w cefnogwyr nhw ar gyfer ffeinal gemau ail gyfle’r Adran Gyntaf.