Fe fydd un o bedwar twrnament Ewropeaidd newydd i golffwyr ag anableddau yn dod i’r Celtic Manor.

Bydd y 20 chwaraewr uchaf ar y rhestr ddetholion yn cystadlu ar y cwrs proffesiynol, gyda chystadlaethau 36 twll hefyd yn cael eu cynnal yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Bydd y cystadlaethau’n cael eu cynnal yr un pryd â phrif gystadlaethau’r byd golff.

Bydd hanner y chwaraewyr yn chwarae yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, a’r hanner arall yn Lloegr a’r Alban, gyda’r pedwar chwaraewr gorau o bob twrnament yn cyrraedd y ffeinal yn Dubai, fydd yn cael ei chynnal yr un pryd â Phencampwriaeth Taith y Byd DP ym mis Tachwedd.

“Gweledigaeth EDGA [Cymdeithas Golff Anabledd Ewrop] a’r Daith Ewropeaidd yw fod golff yn gêm i bawb, ac rydym wrth ein boddau fod Taith Ewropeaidd EDGA yn dychwelyd yn 2021, gan gynnig cyfle anhygoel unwaith eto i ddangos golffwyr ag anabledd i bobol o amgylch y byd,” meddai Tony Bennett, llywydd EDGA.