Mae Paul Bodin, rheolwr tîm pêl-droed dan 21 Cymru, wedi enwi ei garfan i wynebu Moldofa yn yr ymgyrch i gyrraedd Ewro 2023.

Mae Cameron Evans, amddiffynnwr Abertawe sydd ar fenthyg yn Waterford, ac Elliot Thorpe, chwaraewr canol cae Spurs, yn y garfan am y tro cyntaf.

Dyw Rubin Colwill, chwaraewr canol cae Caerdydd, ddim ar gael am ei fod wedi cael ei enwi yng ngharfan baratoadol Cymru cyn yr Ewros.

Dyw George Ratcliffe, Brandon Cooper na Christian Norton ddim ar gael oherwydd anafiadau.

Mae Paul Bodin wedi bod yn canu clodydd Colwill yn dilyn ei ddyrchafiad i garfan Rob Page.

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i Gaerdydd ym mis Chwefror, gan wneud argraff tua diwedd tymor y Bencampwriaeth.

Fodd bynnag, y disgwyl yw na fydd e’n teithio i’r Ewros gyda phrif garfan Cymru, a gallai hynny olygu ei fod ar gael i wynebu Moldofa.

“Cwbl haeddiannol”

“Mae Rubin yn dalent gwych ac mae ganddo botensial mawr, ac mae wedi gwneud cynnydd cyflym yn ystod y misoedd diwethaf,” meddai Paul Bodin.

“Mae wedi mynd i fyny i’r garfan hŷn, sy’n gwbl haeddiannol, felly mae e yn y garfan honno ar hyn o bryd.

“Os bydd pethau’n mynd yn dda, efallai y bydd yn aros gyda nhw ond os yw’n gwneud y 26, byddai’n syndod enfawr oherwydd yr ansawdd sydd yno. Mae’n brofiad gwych iddo.

“Gallai ddod yn ôl i’n carfan ni, gallem gynyddu’r maint ryw ychydig.

“Mae e i ffwrdd ar hyn o bryd, yn cael amser gwych ac efallai y bydd hynny’n parhau.”

Tu ôl i ddrysau caëedig

Bydd y gêm yn erbyn Moldofa yn cael ei chynnal ym Mharc Stebonheath, Llanelli a bydd yn cael ei chwarae y tu ôl i ddrysau caëedig oherwydd cyfyngiadau Covid-19.

Y timau eraill yng ngrŵp Cymru a Moldofa yw’r Iseldiroedd, y Swistir, Bwlgaria a Gibraltar.

Y garfan

Lewis Webb, Nathan Shepperd, Daniel Barden, Billy Sass-Davies, Morgan Boyes, Ben Margetson, Eddy Jones, Cameron Evans, Fin Stevens, Niall Huggins, Terry Taylor, Sam Bowen, Siôn Spence, Sam Pearson, Joe Adams, Luke Jephcott, Lewis Collins, Elliot Thorpe, Rhys Hughes, Jack Vale, Ryan Stirk.