Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Cadw wedi cyhoeddi partneriaeth gyda’r bwriad o gysylltu pencampwriaeth Ewro 2020 gyda hanes a diwylliant Cymru.

Daw hyn wrth i’r tîm cenedlaethol baratoi ar gyfer yr Ewros mewn gwersyll paratoadol ym Mhortiwgal.

Bydd Cadw yn cydweithio’n agos â’r Gymdeithas Bêl-droed er mwyn annog pobol Cymru a thu hwnt i ymweld â’u safleoedd hanesyddol.

Fel rhan o’r bartneriaeth, bydd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru bresenoldeb dros feysydd Cadw yn ystod yr haf, ac mae disgwyl i ragor o wybodaeth gael ei chyhoeddi dros y diwrnodau nesaf.

Daeth cyhoeddiad hefyd y bydd y bartneriaeth yn chwarae “rhan allweddol” wrth i Rob Page gyhoeddi carfan Cymru ar gyfer yr Ewros ddydd Sul (Mai 30).

Bydd modd i gefnogwyr Cymru wylio’r cyhoeddiad yn fyw am 19:30yh, gyda sioe fyw ar draws holl sianeli cymdeithasol Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Dywed Cymdeithas Bêl-droed Cymru mewn datganiad eu bod nhw’n “gweld hanes a diwylliant Cymru, yn ogystal â’r iaith Gymraeg, yn rhan bwysig o’r Gymdeithas a bwriad y bartneriaeth yw codi ymwybyddiaeth am hanes Cymru trwy annog cefnogwyr i ymweld â meysydd Cadw”.