Bydd holl gemau tîm pêl-droed Cymru yn yn yr Ewros yn cael eu darlledu’n fyw ar S4C ac S4C Clic.

Bydd Cymru yn cychwyn eu hymgyrch yn Baku, Azerbaijan ar ddydd Sadwrn, Mehefin 12, yn erbyn y Swistir am 2yp.

Ar ddydd Mercher, Mehefin 16, bydd tîm Rob Page yn chwarae eu hail gêm, yn erbyn Twrci, yn Baku, gyda’r gic gyntaf am 5yh.

Yna, bydd Cymru yn teithio i Rufain ar gyfer eu gêm grŵp olaf, yn erbyn Yr Eidal, ar ddydd Sul, Mehefin 20 am 5yh.

Ac wrth i Gymru baratoi ar gyfer y bencampwriaeth, bydd modd gwylio dwy gêm gyfeillgar ar S4C hefyd.

Ar nos Fercher, Mehefin 2, bydd Cymru yn herio pencampwyr y byd, Ffrainc, yn Nice gyda’r gic gyntaf am 8.05yh, cyn croesawu Albania i Stadiwm Dinas Caerdydd ar nos Sadwrn, Mehefin 5 am 5yh.

“Braint”

“Mae’n fraint i gael bod yn rhan o dîm S4C ar gyfer UEFA EURO 2020,” meddai’r cyflwynydd Dylan Ebenezer.

“Mae gan bawb atgofion melys o be’ ddigwyddodd yn Ffrainc yn ystod haf 2016.

“Mae cryn dipyn wedi newid ers hynny wrth gwrs, ond mae cefnogaeth y Wal Goch, boed yn y stadiwm neu gartref, wedi bod yn gyson ers hynny ac yn rhywbeth mae’r chwaraewyr wir yn teimlo a gwerthfawrogi.

“Mae’r tîm wedi perfformio’n dda iawn i ennill ei lle yn y bencampwriaeth, a gyda’r holl chwaraewyr ifanc yn cyfuno gyda’r hen bennau fel Bale, Ramsey ac Allen, mae yna botensial mawr yn y garfan bresennol.

“Yn bersonol, alla i ddim disgwyl am yr Ewros, a gobeithio y gallwch chi ymuno â ni am y cyfan ar S4C.”