Mae Leanne Wood yn dweud bod angen i Blaid Cymru ateb “cwestiynau anodd” a dechrau ennill etholaethau cyn bod modd dechrau ystyried annibyniaeth o ddifri yng Nghymru.
Fe fu cyn-arweinydd y blaid, a gollodd ei sedd yn y Rhondda yn etholiadau’r Senedd ar ddechrau’r mis, yn siarad ar raglen Sunday Supplement ar Radio Wales heddiw (dydd Sul, Mai 30), gan geisio pwyso a mesur ble’r aeth hi o’i le i’r blaid.
Fe wnaethon nhw ddal eu tir yn y cadarnleoedd traddodiadol, ond prin iawn oedd eu cynnydd yn unman arall ac mae hi’n dweud bod rhaid mynd i’r afael â hynny cyn bod modd “gwyrdroi” sefyllfa’r blaid.
Mae adolygiad o fethiannau’r blaid yn yr etholiad yn cael ei gwblhau gan Dafydd Trystan.
“Dw i’n credu mai’r peth cyntaf roedden ni o dan anfantais yn ei gylch oedd y ffaith fod yr ymgyrch yn fyr iawn, ac rydyn ni’n gwneud yn dda pan ydyn ni’n gallu siarad â nifer fawr o bobol, ac rydyn ni’n dda iawn ym Mhlaid Cymru am fynd allan i’n cymunedau a siarad â phobol,” meddai.
“Ond ychydig o wythnosau’n unig gawson ni i allu gwneud hynny, felly dw i’n credu mai dyna’r peth cyntaf oedd wedi ein rhoi ni o dan anfantais.
“Yn 2016, fe guron ni ar bob drws dros gyfnod o flwyddyn ac yn amlwg, cafodd hynny ei gefnogi gan y ffaith mai fi oedd arweinydd y blaid ac ro’n i wedi cael cryn sylw yn y cyfryngau, yn enwedig yn etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig yn 2015.
“Yn 2016, ro’n i yn nadleuon yr arweinwyr ac yn ymddangos nid yn unig ar stepen drws pobol ond ar eu sgriniau teledu hefyd, felly roedd gyda ni’r frwydr yn yr awyr ac ar y llawr yn 2016 oedd yn gallu cyflwyno’r canlyniad rhyfeddol wnaethon ni ei gyflwyno.
“Ac wrth gwrs, roedd cefnlen Covid yn eitha’ mawr hefyd.
“O ystyried fod y rhaglen frechu’n mynd yn dda iawn a bod teimladau da ar y cyfan tuag at y prif weinidog am ei ddull gofalus, yna dw i’n meddwl bod hynny wedi cael effaith hefyd.”
Annibyniaeth a neges ganolog y blaid
Ar fater annibyniaeth, dywed Leanne Wood fod rhaid i’r ymgyrch gael ei chynnal ar raddfa genedlaethol, gan egluro sut a pham y byddai’n “newid bywydau pobol, yn rhoi terfyn ar dlodi, yn rhoi’r cyfle i ni wneud pethau nad ydyn ni’n gallu’u gwneud nawr gan nad oes gyda ni’r pwerau”.
“Oni bai bod modd mynd i’r afael â’r materion sy’n bwysig ym mywydau dydd i ddydd pobol, dw i’n ofni y byddan nhw’n edrych yn rhywle arall gyda’u pleidlais,” meddai.
“Dw i’n credu bod annibyniaeth yn un cwestiwn, ond mae angen i ni ystyried cwestiynau am drefniant, mae gyda ni drefniant gwych mewn rhai llefydd ond mewn llefydd eraill, dydy e ddim cystal.
“Ac wedyn mae cwestiwn am bolisïau’n ehangach.
“Dw i ddim yn gwbl glir beth oedd ein neges ganolog yn yr etholiad hwn y tu allan i annibyniaeth.”
Llafur wedi perfformio’n dda?
Fe fu Plaid Cymru hefyd yn ymdopi â barn gyhoeddus fod y Llywodraeth Lafur a’r prif weinidog Mark Drakeford wedi ymdrin â’r pandemig Covid-19 yn dda.
Ond yn ôl Leanne Wood, dylai Plaid Cymru fod wedi manteisio ar yr elfennau hynny ym mherfformiad Llafur oedd yn wannach.
“Mae gyda ni Lywodraeth Lafur mae pobol yn teimlo eu bod nhw wedi perfformio’n dda yn nhermau Covid, er pan fo craffu ar y dyddiau cynnar yn enwedig yn sgil diffyg cyfarpar amddiffyn personol i gartrefi gofal a diffyg cefnogaeth ariannol i alluogi pobol i hunanynysu, efallai y byddai safbwyntiau am y ffordd wnaeth Llafur fynd i’r afael â Covid yn wahanol.
“Ond ar hyn o bryd, ac mae amser yn bopeth yn y byd gwleidyddol, mae pobol yn teimlo bod Llafur wedi gwneud yn dda o ran Covid.
“Ond yn nhermau addysg, record o ran rhestrau aros yn y Gwasanaeth Iechyd, mae digon i bwyntio bys ato i ddangos nad yw’r Llywodraeth Lafur wedi gwneud yn dda, felly mae llawer iawn mwy y gallwn ni ei wneud i dynnu sylw at y materion hynny, dw i’n meddwl, a dangos y gallwn ni wneud tipyn yn well.
“Galla i ddeall pam mai’r dull oedd cefnogi’r dull gofalus hwnnw o ran Covid, hynny yw dw i’n credu bod rhaid canmol lle bo angen.
“Ond mae cwestiynau ehangach, yn enwedig o ran gwasanaethau cyhoeddus, o ran faint o arian fydd yn mynd i wasanaethau cyhoeddus i helpu eu hadferiad, faint o gefnogaeth fydd y Gwasanaeth Iechyd yn ei chael i sicrhau ein bod ni’n barod pe bai pandemig arall yn digwydd fel hyn eto?
“Dyma’r cwestiynau mae’r grŵp sy’n arwain Plaid Cymru mewn sefyllfa gref i chwarae rhan flaenllaw ynddyn nhw.”
Arweinyddiaeth
Yn ôl Leanne Wood, “mae’n rhaid i’r adolygiad fydd yn cael ei gynnal edrych ar bopeth”, ac mae hynny’n cynnwys arweinyddiaeth Adam Price.
“Yn amlwg, alla i ddim ond siarad am fy mhrofiad i’n gweithio fel ymgeisydd ar lefel gymunedol,” meddai.
“Dw i ddim wedi bod ynghlwm wrth benderfyniadau strategol y blaid ers peth amser.
“Alla i ddim gwneud sylw am hynny,” meddai wrth gael ei holi a yw’r arweinyddiaeth yn cael ei herio o fewn y blaid.
“Oherwydd dw i ddim ynghlwm wrth dîm rheoli uwch y blaid rhagor, ond byddwn i’n gobeithio nad yw hynny’n wir, a byddwn i’n gobeithio’n fawr y byddai pobol yn barod i herio a gofyn cwestiynau.
“Dw i’n credu nad yw’r arfer dros dro yma o newid arweinydd pan nad yw’r etholiad diweddara’n arwain at y canlyniadau mwyaf anhygoel erioed yn mynd i fynd â chi’n bell iawn yn y tymor hir.
“Mae Adam yn arweinydd da ar lawer ystyr a dw i’n credu y dylai barhau.
“Mae ganddo fe dîm newydd da o’i amgylch e nawr a dw i’n eitha’ sicr y gwelwn ni dipyn o dalent yn dod o’r grŵp hwnnw, ac fe fydd angen cefnogaeth arno fe i ailadeiladu’r blaid ac i ennill etholaethau.
“Oherwydd oni bai ein bod ni’n ennill etholaethau, yna fydd y nod yna o ennill annibyniaeth ddim yn cael ei gwireddu.”
Cwestiynau anodd
Dim ond wrth ateb y cwestiynau anodd mae modd gwella’r sefyllfa, meddai Leanne Wood wedyn.
“Weithiau, y cwestiynau mwyaf anodd sydd angen cael eu gofyn sy’n eich rhoi chi mewn sefyllfa dda i wyrdroi pethau.
“Felly yn sicr, ar y pwyllgor cenedlaethol, byddwn i’n tybio bod yna leisiau heriol cryf.”
Dywed ymhellach fod rhaid bod yna awydd i fyfyrio ar wendidau o fewn y blaid er mwyn symud yn eu blaenau yn y dyfodol.
“All e ddim bod yn fater o fogailsyllu,” meddai.
“Rhaid ei fod yn seiliedig ar dystiolaeth, a dyna pam ei fod yn galondid fod Dafydd Trystan yn arwain yr adolygiad, oherwydd mae e’n rhywun sy’n rhoi pwys mawr ar dystiolaeth a sicrhau bod ffeithiau cadarn i gefnogi unrhyw argymhellion y gallai fod yn eu gwneud.
“Felly, mae’n rhaid i ni siarad â phobol sy’n pleidleisio.
“Efallai bod gennym oll ein syniadau ynghylch beth sydd wedi digwydd ond oni bai ein bod ni’n siarad â phobol yn uniongyrchol ac yn gofyn iddyn nhw beth yw eu safbwyntiau ac yn barod i wrando a mynd i’r afael â’r hyn maen nhw’n ei ddweud wrthym, bydd y cyfnod hwn o fyfyrio’n wastraff amser.”