Wedi etholiad siomedig arall i Blaid Cymru, mae cwestiynau angen cael eu gofyn, wrth gwrs. Roedd hi’n anodd, wrth ragfynegi, gweld sut gallai hi gael llai nag 14 sedd, hyd yn oed heb wneud fawr ddim – fe gafodd hi 13.

Pentyrrodd y bleidlais iddi yn ei chadarnleoedd traddodiadol, ac fe ellid dadlau bod y Fro Gymraeg yn gadarnach i Blaid Cymru nag ar unrhyw bryd arall yn ei hanes.