Er bod eraill all ddadansoddi a dehongli canlyniadau Etholiad Senedd Cymru yn graffach o lawer na fi, does yna’r un pwnc arall yn bwysicach i’n cenedl ar hyn o bryd.

Gyda’i gelynion wedi bod yn fwy croch nag erioed yn ddiweddar, mae gweld ein Senedd yn parhau ac yn datblygu yn hanfodol i’n dyfodol fel cenedl.