‘Soi’n grêt ar hyn o bryd, a gweud y gwir wrthot ti.’

Cafodd y frawddeg ei hymarfer dro ar ôl tro, sillafau prin, cynnil oedd wedi bod yn cuddio ers talwm. Cyn iddo ddweud y geiriau allan yn uchel, wyddai Iolo ddim a oedd o’n mynd i allu siapio’i geg o’u cwmpas nhw. Wyddai o ddim a oedd o’n ddigon dewr i gynnig yr awgrym lleiaf o’i wirionedd hyll, poenus.