Er bod rhai o’r pwnditiaid Cymreig yn gweld bod y Blaid Lafur wedi gwneud gwyrthiau yng Nghymru yn yr etholiad, mae lle i amau a yw hynny’n wir. Nid oedd canran y bleidlais Gymreig fawr uwch nag y bu o’r blaen yn etholiadau’r Cynulliad/Senedd. Serch gwaith da Mr Drakeford i’n hachub rhag gafael y Covid, y tro hwn eto dim ond 47% ohonom a gafodd ddigon o awydd i ymestyn am y bensil i roi croes i’r gwahanol bleidiau. Gwelsom fod canran y bleidlais mewn ambell etholaeth cyn lleied â 34%.