Un o’r pethe olaf wnes i cyn dechre cwato rhag y firws y llynedd, oedd mentro i Abertawe. Falle bo hynny ddim yn swnio’n hynod o fentrus, ond ro’dd y syniad o ddod yn fyfyrwraig eto yn un cyffrous ond dychrynllyd. Mi fyddwn ni’n camu o fyd hanes celf i’r gwyddorau – at ddaearyddiaeth: pwnc ro’n i’n ei gysylltu gyda gwersi TGAU am oxbow lakes, ond sy’n cwmpasu pob mathau o ysgolheigion sy’n astudio ein perthynas ni gyda’r byd o’n cwmpas. Wrth eistedd yn y lolfa lachar, a lluniau o bobl y