Ma’ ’na jant pêl-droed – ‘We know what we are, we know what we aaaare…’ gan ddilyn wedyn gyda rhywbeth na ellir ei ailadrodd – sy’n crynhoi shwt dw i’n teimlo ar ôl yr etholiad. Er bod bron dim wedi newid o ran pwy fydd mewn grym, ac er ’mod i unwaith eto wedi pleidleisio dros ochr aflwyddiannus, dw i o leia’n teimlo bo’ fi’n adnabod y map gwleidyddol eto – bod y canlyniad o leia’n adlewyrchu’r hyn dw i’n ei ddeall am Gymru.