Yn wreiddiol o Grymych, mae’r fyfyrwraig 19 oed yn astudio Cymraeg a Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ac mae yn un o’r lleisiau ar fersiwn newydd ddwyieithog Urdd Gobaith Cymru a TG Lurgan o ‘Gwenwyn’, y mega-hit gan Alffa sydd wedi ei ffrydio dros dair miliwn o weithiau….

Sut gawsoch chi’r cyfle i ganu ar ‘Gwenwyn/Nimhneach’? 

Ges i neges dros whatsapp yn gofyn a oedd gen i ddiddordeb bod yn rhan o’r project.

Sa i wedi gwneud lot o ganu pop o’r blaen, ond fi wedi tyfu lan yn gwneud lot o steddfodau, fel mae pawb yng Nghymru wedi gwneud!

Sa i wedi cyrraedd y llwyfan, ond rydw i wedi mwynhau, a dyna’r peth pwysig!

Faint oeddech chi’n gwybod am gân Alffa, cyn ei recordio?

Ro’n i’n gwybod mai hon oedd y gân Gymraeg gyntaf i gyrraedd miliwn o ffrydiau ar Spotify, felly roeddwn i’n ymwybodol ei bod hi’n gân dda iawn.

Mae hi’n gân bluesy, ac rydw i’n lico pop eithaf jazzy, bluesy. Felly fi’n wirioneddol caru cerddoriaeth Amy Winehouse a Florence and the Machine a Billy Eilish.

Beth wnewch chi o’r cydweithio rhwng aelodau’r Urdd a mudiad ieuenctid TG Lurgan draw yn Iwerddon?

Mae’n beth gwych, achos efallai bod lot o bobol yn meddwl fod ieithoedd lleiafrifol ond yn cael eu siarad mewn steddfodau ac ysgolion ac ati.

Ond trwy wneud y project yma, mae o’n dangos bod yr ieithoedd yma yn cael eu defnyddio gan bobol ifanc, a bod pobol yn byw eu bywydau trwy’r ieithoedd yma, ac yn ffynnu.

Pa brofiadau eraill ydach chi wedi eu cael gyda’r Urdd?

Rydw i wedi bod yn aelod ers ysgol gynradd, ac wedi gwneud steddfodau, a siarad cyhoeddus.

Es i i Batagonia yn 2019, mynd i ysgolion a gweld y gymuned Gymraeg oedd mas yna, oedd yn hwyl.

Profiad anhygoel… mae clywed pobol, yn enwedig plant bach, yn siarad Cymraeg gydag acenion Sbaeneg, yn hollol amazing!

Pam wnaethoch chi benderfynu mynd i astudio yn Aberystwyth?

Achos mae e’n le hyfryd iawn, golygfeydd neis, ac mae’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol fel YR adran orau i wneud y pwnc. Ac roeddwn i’n gallu gwneud mwyafrif y cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd, oedd yn rhan bwysig o’r penderfyniad.

A dw i’n dod o Grymych, felly mae Aber yn teimlo yn gosmopolitan iawn. Dw i’n teimlo fel bo fi mewn dinas fawr yn Aber!

Rydach chi fewn i’ch gwleidyddiaeth felly?

Wel, rydw i’n lico gwybod beth sy’n mynd ymlaen yn y byd… a thrïo deall!

Beth yw eich ofn mwya’?

Methu mewn bywyd.

Beth fyddwch chi’n mwynhau ei wylio ar deledu?

Dw i yn obsessed gyda gwylio Coronation Street, Casualty a Holby City.

Rydw i wedi gwylio nhw yn wythnosol ers i fi fod yn y crud, basically!

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?

Rydw i’n eithaf lico mynd am dro ar hyd y prom yn Aber, a phan fydda i gartre a’i lan i’r mynyddoedd i grwydro.

Beth sy’n eich gwylltio?

Pan mae pobol yn cnoi gyda’u cegau nhw ar agor wrth fwyta. Alla’i ddim godde fe.

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Fydden i ddim yn gwahodd neb, ond yn eistedd rhywle lle fydden i’n gallu gwylio pobol eraill yn mynd obwyti eu bywydau nhw, dipyn bach o people watching.

Wedyn fydden i’n cael pryd o shushi syml gyda gwin really neis.

Rydw i’n lico cwmni fy hunan!

Gan bwy gawsoch chi sws orau eich bywyd?

Mae hynna’n gyfrinach!

Oes ganddo chi air yr ydych chi’n gorddefnyddio?

O, oes! Dw i’n dueddol o ddweud ‘like’ neu ‘fel’ pob cwpwl o eiriau. Mae e’n really annoying, ond fi methu stopo…

Beth yw eich hoff wisg ffansi? 

Cath.

Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?

Un tro, roeddwn i’n cael fy nghyfweld ar soffa Heno yn fyw, ar ran yr Urdd, a wnes i jesd anghofio shwt i siarad yn llwyr. Roedd yn ofnadwy, syllu yn blanc at y cyflwynwyr yn y stiwdio…

Beth yw eich hoff ddiod feddwol?

Captain Morgan’s Spiced Rum and coke.

Beth yw eich hoff air?

Sbigoglys.

Pa gân arall hoffech chi greu fersiwn newydd ohoni hi?

Dw i’n meddwl fydde fe’n cŵl gwneud cân bop yn yr Wyddeleg, os mae rhai yn bod.

Rhannwch gyfrinach efo ni…

Wnes i sugno fy mys bawd tan bo fi yn 16… roedd pobol yn dweud wrtha’i i roi’r gorau iddi drwy’r amser!

Ond mae dannedd syth iawn gyda fi…

Beth ydych chi wedi bod yn ei wneud yn y cyfnod clo?

Rydw i’n lico gwnïo a gwneud dillad fy hunan. Rydw i ganol ffordd drwy wneud siwt i fy hunan, wedi ei leinio a phopeth.

Roeddwn i’n bôrd dros y locdown cyntaf, felly feddylies i bydden i’n prynu peiriant gwnïo.

Ac wedyn ges i beiriant gwnïo gan Non Williams o Eden!

Wnaeth hi roi e’ i fi am ddim, oedd yn rili lyfli.

A wnes i wylio fideos [er mwyn dysgu gwnïo] – mae Youtube yn briliant!

“Chwalu muriau ieithyddol” drwy ryddhau fersiwn Gwyddeleg/Gymraeg o ‘Gwenwyn’ gan Alffa

“Credaf fod y prosiect diweddaraf hwn nid yn unig yn dangos talentau ein hieuenctid, ond hefyd eu cariad tuag at eu diwylliant brodorol”