Mae aelodau o’r Urdd a phrosiect ieuenctid TG Lurgan wedi rhyddhau ail gynhyrchiad o ‘Gwenwyn’ gan Alffa, y sengl Gymraeg gyntaf i gyrraedd miliwn o ffrydiau ar Spotify, heddiw (dydd Iau, 22 Ebrill 2021).
Ym mis Ionawr bu i aelodau o’r Urdd ryddhau ‘Golau’n Dallu / Dallta ag na Solise’ (addasiad o ‘Blinding Lights’ gan The Weeknd) ar y cyd â TG Lurgan o Iwerddon – bu i’r fideo a groesi’r trothwy 100,000 o wylwyr o fewn y mis cyntaf.
O ganlyniad, gwahoddwyd pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed i gofrestru i fod yn rhan o’r ail gyd-gynhyrchiad.
Penderfynwyd mai addasiad o gân Gymraeg fyddai’r ail gyd-gynhyrchiad, sef ‘Gwenwyn’ gan y band Alffa.
Bydd yr addasiad hefyd i’w chlywed ar wasanaethau ffrydio megis Spotify o ddydd Gwener (Ebrill 23) ymlaen.
Mae’r cynhyrchiad newydd yn cynnwys cyfraniadau gan 28 o Gymry a Gwyddelod ifanc yn ogystal â pherfformiadau gan gantorion.
Mae dwy ddawnswraig wedi cydlynu coreograffi gyda’i gilydd hefyd sef Elan Elidir a Aisling Sharkey.
Dywedodd Mícheál Ó Foighil, Cyfarwyddwr TG Lurgan: “Rydym yn hynod falch o gael parhau i gryfhau ein partneriaeth gyda’r Urdd.
“Credaf fod y prosiect diweddaraf hwn nid yn unig yn dangos talentau ein hieuenctid, ond hefyd eu cariad tuag at eu diwylliant brodorol.”
“Chwalu muriau ieithyddol”
“Mae’n wych fod yr Urdd wedi defnyddio ‘Gwenwyn’ gan Alffa fel y gân ddiweddaraf i gael y driniaeth amlieithog,” meddai Yws Gwynedd, Recordiau Côsh Records.
“Yn ddiweddar, mae ’na artistiaid wedi bod yn chwalu muriau ieithyddol i lawr ym mhobman ac roedd Alffa’n un o’r bandiau cyntaf oddi ar label Recordiau Côsh i gael cydnabyddiaeth fyd-eang ar gyfer cerddoriaeth Gymraeg.
“Mae’n atgoffa ni fod cerddoriaeth yn gyfrwng universal a does dim angen deall y geiriau, ac mae yna rywbeth wirioneddol hyfryd am glywed yr iaith Wyddeleg yn cael platfform fel hyn, hefyd – mewn undod mae nerth.”