Mae Equity yn galw ar ymgeiswyr y Senedd i gefnogi naw polisi a fydd yn amddiffyn a hyrwyddo’r sector creadigol a’i weithwyr, yn enwedig yng nghyd-destun Brexit, a’r adferiad ar ôl y pandemig.
Ymhlith y galwadau, mae’r undeb am weld diwylliant a chreadigrwydd yn cael eu gwneud yn gyfrifoldeb i Aelod Cabinet llawn.
Maent am weld Gwarant Incwm Sylfaenol yn cael ei gyflwyno ar gyfer gweithwyr creadigol er mwyn amddiffyn gweithwyr rhag anisicrwydd, a helpu’r diwydiant.
Yn ogystal, mae’r undeb yn galw am greu Fforwm Annibynnol i gynghori Llywodraeth Cymru ar bolisïau mewn perthynas â’r cyfryngau yng Nghymru, ac i geisio “newid y naratif” ynghylch datganoli darlledu.
Gofynion
- Sicrhau bod pwysigrwydd diwylliant a chreadigrwydd yn cael ei gydnabod ar draws Llywodraeth Cymru trwy ei wneud yn gyfrifoldeb Aelod Cabinet llawn.
- Sicrhau bod y cyllid sy’n wedi’i golli drwy adael yr Undeb Ewropeaid yn cael ei gyfateb a’i ddisodli gan Gronfa Ffyniant Cyfranddaliadau’r Deyrnas Unedig. Dylai’r penderfyniadau ynghylch ei wariant gael eu datganoli i Gymru.
- Galw ar y Llywodraeth i gyflwyno Gwarant Incwm Sylfaenol i weithwyr creadigol.
- Sicrhau bod Cymru’n dod yn Genedl Gwaith Teg.
- Gwneud yn siŵr fod Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar y Ddeddf Cydraddoldeb, gan gyflwyno dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i ystyried sut y gallant leihau anghydraddoldebau sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol
- Gwneud cyllido gwasanaethau celf a cherddoriaeth yn ddyletswydd statudol i awdurdodau lleol a chodi gwariant ar gyllid y celfyddydau.
- Galw am gynrychiolaeth gwbl gynhwysol, a chyfle cyfartal i bob ymarferydd.
- Galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Fforwm Annibynnol i’w cynghori ar bolisi mewn perthynas â’r cyfryngau yng Nghymru, ac i geisio newid y naratif ynghylch mater datganoli darlledu yng Nghymru, a darparu arweinyddiaeth ar gryfhau llais Cymru yn y dirwedd ddarlledu i ddarparu enillion diwylliannol ac economaidd.
“Fframwaith cryf i ailadeiladu ein diwydiant”
“Credwn fod y maniffesto hwn yn darparu fframwaith cryf i ailadeiladu ein diwydiant sydd wedi’i ddifetha gan y pandemig,” meddai Christopher Batten, Cadeirydd Pwyllgor Cenedlaethol Cymru Equity.
“Mae’n galw ar Lywodraeth Cymru sy’n dod i mewn i gefnogi ac eirioli dros y gymuned greadigol yn wyneb cyfyngiadau teithio a cholli cyllid yr UE oherwydd Brexit.”
“Mae hefyd yn faniffesto sy’n ein beiddio i wasgu’r botwm ailosod, i gydnabod y cyfraniad enfawr y mae gweithwyr creadigol yn ei wneud i Gymru, ac i ddathlu’r amrywiaeth gyfoethog o leisiau creadigol o bob rhan o gymdeithas Cymru.”