Mae Gŵyl Lenyddiaeth Plant Caerdydd yn dychwelyd eleni ac yn cael ei gynnal yn rhithiol rhwng Ebrill 24-25 yn rhad ac am ddim.
Bu’n rhaid i’r trefnwyr ganslo’r ŵyl y llynedd yn sgil pandemig y coronafeirws.
Mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi naw o westeion hyd yma, gyda sesiynau ar gyfer siaradwyr Cymraeg a Saesneg.
Bydd awduron llyfrau lluniau fel Smriti Halls, sydd wedi cyhoeddi dros 30 o lyfrau lluniau, a Fleur Hitchcock, awdur llyfrau trosedd, ymhlith y gwesteion.
“Mae gennym rai o awduron plant mwyaf poblogaidd Prydain yn ymddangos yn yr ŵyl eleni, gyda 9 o westeion wedi’u cyhoeddi hyd yn hyn,” meddai’r trefnwyr mewn datganiad.
“Bydd awduron ifanc yn cael eu cyfareddu wrth i’r awdur arobryn Michelle Harrison rannu’r syniadau a ysbrydolodd ei llyfrau mewn gweithdy ysgrifennu creadigol, ac wrth i’r awdur a darlunydd, Rob Biddulph, rannu ei siwrnai o fod yn ddarpar ddarlunydd, i fod yn grëwr llyfrau lluniau arobryn, ac yn ddeiliad record byd, yn ei weithdy cyd-ddarlunio.”
Tair awdures Gymraeg
Mae tair awdures Gymraeg wedi’u cyhoeddi hyd yma, ac ymhlith y rheini mae’r gantores a’r awdur Gwawr Edwards fydd yn darllen o’i llyfr Mali: Storïau am gi bach ar y fferm.
Bydd Casia Wiliam yn darllen o’i llyfr Sw Sara Mai – lle mae glanhau pŵ eliffant yn apelio lot mwyn na mynd i’r ysgol, a merched Blwyddyn 5 yn fodau arallfydol o blaned arall.
Ar ben hynny bydd Casia yn trafod ysgrifennu’r nofel, yn darllen y bennod gyntaf, ac yn ateb cwestiynau’r plant.
Wrth drafod yr ŵyl, dywedodd Gwawr Edwards wrth golwg360: “Roeddwn i fod i gymryd rhan y llynedd, ond cafodd yr ŵyl ei chanslo felly maen nhw wedi gofyn wrtha i wneud o eto eleni gan ei bod nhw wedi penderfynu ei wneud o’n rhithiol.
“Dw i wedi gwneud un sesiwn rithiol gyda phlant yn darllen y storiâu ac mae o’n wahanol oherwydd mae o’n anodd dal eu sylw nhw gan mai plant bach ydyn nhw a dydyn nhw ddim yn mynd i ddal sylw’r un fath a tasa chdi yn yr ystafell.
“Felly dw i’n siŵr y bydd hi’n her, ond o leiaf maen nhw’n ei wneud o, mae o dal yn beth neis a phositif ei bod nhw’n bwrw ’mlaen â’i wneud o’n rhithiol.”
Dod a dywediadau cefn gwlad i blant y ddinas
Mae Gwawr Edwards wedi dweud wrth golwg360 ei bod hi’n awyddus i ddod â dywediadau cefn gwlad i blant y ddinas.
“Un o’r rhesymau nes i benderfynu ysgrifennu’r llyfr oedd i gynnwys lot o ddiarhebion Cymraeg a dywediadau Cymraeg o fewn y storïau – yn enwedig rhai sy’n ymwneud â chefn gwlad.
“I mi, mae hwnna’n rhywbeth pwysig i drosglwyddo i’n plant ni fel bod ein plant ni’n dysgu’r dafodiaith a’r hen ddywediadau neu maen nhw’n mynd i farw allan.
“Felly mae o’n beth da i mi wneud pethau fel hyn er mwyn cael mwy o sylw i’r llyfr a mwy o sylw i’r storiâu a’r dywediadau sydd yn y storiâu.
“Mae o’n bwysicach fyth i blant y ddinas achos dw i’n gwybod bod yno lot o eiriau a dywediadau yn y storïau hyn dyw hyd yn oed rhai o blant y wlad ddim yn gyfarwydd gyda, hen sôn am blant y ddinas.”