Mae nifer o artistiaid o Gymru wedi dod at ei gilydd yn Stiwdio Sain er mwyn cynhyrchu cân sy’n “cefnogi annibyniaeth”.
Dan gyfarwyddyd Osian Candelas, daeth cantorion a cherddorion at ei gilydd i recordio’r gân ‘Mae’r dydd wedi dod / Let us be free’, sef fersiwn newydd o ‘Ar Noson fel Hon’ o’r sioe gerdd Pum Diwrnod o Ryddid.
Mae’r sioe gerdd, gan Gwmni Theatr Maldwyn, yn seiliedig ar safiad gweithwyr Llanidloes dros egwyddorion y Siartwyr ym 1839, ac fe gafodd y gwrthryfel ei ddisgrifio fel “yr ymgyrch gyntaf tros hawliau’r dosbarth gweithiol yn y byd”.
Wrth nesu at etholiad Senedd Cymru, sylweddolodd nifer o gantorion Cymru fod y dyhead am Ryddid i Gymru, a chaniatáu’r bleidlais i bobol ifanc, yn adleisio llawer o ddyheadau’r gweithwyr yn Llanidloes.
Ymhlith yr artistiaid sy’n ymddangos ar y trac mae Elis Derby, Gwenan Gibbard, Jalisa, Gwilym Bowen Rhys, ac Ifan Pritchard, o fand Gwilym.
Y gân yn cefnogi “unrhyw bleidiau sydd o blaid annibyniaeth”
“Fe wnaeth Dafydd Iwan yrru e-bost at gerddorion a chantorion roedd o’n meddwl ella fysa gan ddiddordeb yn y math yma o beth,” eglurodd Gwilym Bowen Rhys wrth golwg360.
“Syniad y gân ydi ei bod hi’n cefnogi unrhyw bleidiau gwleidyddol sydd o blaid annibyniaeth i Gymru, dydi o ddim dros un blaid na’r llall.
“Y pwynt ydi ei bod hi’n pro-annibyniaeth.
“Doeddwn i erioed wedi clywed y gân, wedyn o wrando arni fe wnes i sylwi – ‘waw mae hon yn wych’.
“Mae’r gân yn seiliedig ar streic ddigwyddodd mewn ffatri yn Llanidloes dros ganrif a hanner yn ôl, ac mae hynny’n enghraifft arall o ddarn pwysig o’n hanes ni nad ydan ni’n dysgu amdano.
“Roedd Dafydd [Iwan] yn dweud nad oedd angen newid llawer ar y geiriau, oherwydd roedd hi i gyd yn addas i bwynt y peth.”
“Ateb amlwg iawn”
“Mae [annibyniaeth] yn ateb amlwg iawn i lot o broblemau,” meddai Gwilym Bowen Rhys.
“Dydi llywodraeth ganolog, mewn unrhyw ffordd, sy’n trio rheoli lot o bobloedd gwahanol sydd gydag anghenion gwahanol, ddim yn gweithio.
“Ym mhob un genedl, a hyd yn oed o fewn y genedl yna, mae yna gymaint o haenau o’r gymdeithas sydd angen sylw penodol.
“Ffordd dda o sbïo arno fo ydi, os ti am gael dosbarth o blant ac un athro, ac mae yna dri chant o blant mewn un dosbarth – dydi’r athro ddim am fod yn gwybod enw pob un plentyn, nag anghenion pob plentyn.
“Dyweda bod gen ti ddosbarth efo deg o blant, mae’r berthynas rhwng yr athro a’r plant lot gwell achos mae’r athro yn adnabod y plant a’u hanghenion nhw, ac yn mynd i allu teilwra’r ffordd maen nhw’n trin y plant i anghenion bob un.
“Dw i’n meddwl bod hynny’n ffordd dda o weld sut nad ydi llywodraeth rhy ganolog yn gweithio.
“Mae rhannu fo fyny i unedau sydd yn amlwg â threftadaeth, a hanes, a diwylliant gwahanol just yn gwneud gymaint o synnwyr.
“Fydda i’n pleidleisio Plaid Cymru.”
“Newyddion da i unrhyw wleidyddiaeth sy’n progessive”
“Mae’n wych” bod pobol ifanc yn 16 ac 17 oed yn cael pleidleisio yn etholiadau’r Senedd eleni, meddai Gwilym Bowen Rhys.
“Mae’n ddiddorol. Dw i’n cofio’n ôl at refferendwm annibyniaeth yr Alban yn 2014, dw i’n cofio roeddwn i tua 20 oed – ond ar y pryd, roedd pobol roeddwn i’n eu hadnabod oedd yn ieuengach hefyd yn hollol engaged.
“Dw i’n gwybod bod ffrindiau yn yr Alban yn dweud bod pobol ifanc yn siarad am wleidyddiaeth mewn ffordd iach ac adeiladol, ac yn gofyn cwestiynau.
“Dydi o ddim fel bod chi’n deffro un bore pan rydach chi’n ddeunaw, ac rydach chi’n sydyn reit yn ddoethach person.
“Ar ddiwedd y dydd, y bobol yma fydd yn byw yn y dyfodol yma maen nhw’n pleidleisio amdano.
“Mae angen tynnu lein yn rhywle, mae 16 ac 17 o fewn ffiniau rhesymol, ac maen nhw’n gallu meddwl yn rhesymol a chwestiynu’n rhesymol.
“Mae’n newyddion da i unrhyw wleidyddiaeth sy’n progessive, mae pobol ifanc yn dueddol o fod yn fwy agored eu meddwl a progressive – bron fel eu bod nhw heb gael eu cymryd mewn gan y status quo o fywyd dydd i ddydd.
“Mae ganddyn nhw dal freuddwydion mawr, ac maen nhw’n dal i allu breuddwydio am ddyfodol sy’n gallu newid mewn ffordd radical.
“Mae’n beth da i unrhyw un sy’n credu mewn newid progressive gwleidyddol.”
Cyfle rhy dda i’w basio
Llais adnabyddus arall ar y trac newydd yw Ifan Pritchard, canwr y band Gwilym.
“Fe wnaeth Dafydd Iwan ffonio rhai artistiaid dw i’n caru gwrando arnyn nhw, ac roedd y cyfle i fynd yn ôl i le wnaeth Dafydd Iwan gychwyn rhywbeth wnaeth gychwyn gyrfaoedd pobol eraill yn gyfle rhy dda i’w basio, o standpoint cerddorol,” meddai Ifan Pritchard.
“Hefyd roedd canu cân Theatr Maldwyn efo Osian [Candelas, sy’n fab i Derec Williams, un o sefydlwyr Cwmni Theatr Maldwyn] yn cyfarwyddo, roedd o’n gyfle rhy dda i’w basio.
“Roedd yr ymgyrch yn un dda, roedd hi’n broses rili sydyn, ac roeddwn i’n meddwl fod o’n brilliant, felly fe wnes i fynd amdani. Ac roedd hi’n neis cael canu eto!”
Cymru i benderfynu “beth sydd orau i’n gwlad”
“Dw i’n meddwl bod o’n amlwg [pwy dw i am bleidleisio], wna i adael hi’n fan’na,” meddai Ifan Pritchard wrth golwg360.
“Dw i’n meddwl mod i wedi laru gwylio pobol sydd ddim yn deall diwylliant rhywle, ac yn cymryd diwylliant Prydain ar lefel cyffredinol yn sgil be maen nhw’n weld bob dydd mewn dinasoedd sy’n fwy poblog nag eraill.
“Allech chi alw fi’n rhagrithiol, dw i’n symud i Lundain i astudio – ond dydi hynny ddim yn golygu fy mod i’n cefnogi gwleidyddiaeth Llundain.
“Be dw i’n wybod ydi y byswn i’n licio gweld rhywle o fewn ein gwlad ni’n penderfynu ar beth sydd orau i’n gwlad ni.
“Dw i’n gwybod bod yna lot o bethau yn cael eu penderfynu yn y Senedd [yng Nghaerdydd] yn barod, ac mai dyna pam mae’r Senedd yn bodoli, ond fyswn i’n licio bod economi, a phob un mater arall yng Nghymru, yn cael eu rheoli yn y Senedd.”
“Actio fel bod yna age barrier i wybod am wleidyddiaeth”
Wrth drafod arwyddocâd rhoi’r bleidlais i bobol 16 ac 17 oed, dywedodd Ifan Pritchard ei fod yn “rhywbeth dw i wedi bod yn ddweud ers blynyddoedd mewn cyfarfodydd lleol, ac ymysg pleidiau – mae’n ludicrous bod pobol 16 oed ddim yn cael pleidleisio.
“Rydyn ni’n actio fel bod yna age barrier i intellect, ac i wybod am wleidyddiaeth.
“Roeddwn i’n un o’r bobol yna nad oedd yn gallu pleidleisio adeg Brexit, a dweud fy nweud am fy nyfodol, achos roeddwn i un flwyddyn rhy ifanc i fod yn eligible i wneud.
“Dw i’n deall bod yna lot o bobol 16 oed sydd ddim yn cymryd diddordeb, ond mae yna lot o bobol 21 sydd ddim yn cymryd diddordeb. Dw i ddim yn gweld y gwahaniaeth.
“Dw i’n meddwl bod o’n brilliant bod pobol 16 i fyny yn cael pleidleisio am y tro cyntaf, a dw i’n edrych ymlaen at weld sut fydd hynny’n effeithio ar wleidyddiaeth Cymru, a Phrydain yn gyffredinol.”