Mae’r pianydd 22 oed o Fangor newydd ryddhau EP o’i chaneuon ei hun, ac wedi creu traciau gyda Mared Williams a Lewys Wyn, canwr band roc yr Eira.

Ar ôl blynyddoedd yn chwarae cerddoriaeth glasurol, fe gafodd ei hysbrydoli i sgrifennu caneuon pop ar drip i America…

Pryd wnaethoch chi gychwyn cyfansoddi caneuon pop?

Fues i draw i Tecsas gyda fy nghwrs coleg am flwyddyn y llynedd, a wnaeth hynny fy ysbrydoli.