Portread o Iestyn Morgan

Iestyn Morgan yw rheolwr bar gwesty’r Harbwrfeistr yn Aberaeron. Mae’n hoffi rocio yn ei amser sbâr, ac mae am weld rhagor o bobol ifanc yn bwrw prentisiaeth.

Mae’r gŵr 25 oed wedi treulio telpyn go-lew o’i fywyd yn gweithio i’r gwesty hwnnw yng Ngheredigion, ac mi gwblhaodd brentisiaeth yno.

Ac yn sgîl ei brofiadau yn brentis mae wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn ‘Llysgennad Prentisiaethau’ i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.