- Noder fod y darn hwn yn ddiweddariad o’r golofn yn y cylchgrawn a aeth i’r wasg cyn y cyhoeddiadau y byddai timau’n tynnu’n ôl o’r Uwch Gynghrair Ewropeaidd.
Wel, fe ddaeth ac mi aeth, yr Uwch Gynghrair Ewropeaidd.
I gychwyn, er bod e’n rhywbeth sydd wedi cael ei drafod fel posibilrwydd ers blynyddoedd lawer, fe ddoth cyhoeddiad y Dirty Dozen fel cryn sypreis i’r byd pêl-droed. Ond, wrth i’r newyddion setlo, fe gafwyd ymateb ffyrnig – dw i ddim yn credu ’mod i erioed wedi clywed cymaint o ddefnydd o’r geiriau ‘disgrace’ a ‘disgusting’, a hynny mewn byd a chyfnod lle mae cryn dipyn o bethau wedi bod yn ‘disgrace’ a ‘disgusting’.
Fe wylies i’r cyfan gyda chymysgedd o syndod, siom ac embaras (dw i’n ffan Arsenal – clwb chwerthinllyd ar y foment sy’n nawfed yn y gynghrair ac yn straffaglu i gêm gyfartal gartre yn erbyn Fulham wrth i’r newyddion am y gynghrair dorri).
Cofiwch chi, wrth wylio’r dicter ar Sky Sports nos Sul a nos Lun – gyda Jamie Carragher a Gary Neville yn rhoi areithiau o’r math y byddech chi’n hoffi eu clywed gan wleidyddion ar anghyfiawnderau’r dydd – roedd hi’n anodd anghofio mai Sky a’i rôl yn ffurfio’r Premier League ddechreuodd taith pêl-droed Lloegr tuag at yr arian dwl.
Bryd hynny, newidiwyd yr hyn oedd bwysicaf i glybiau mawr – o’r ffans oedd yn dod drwy’r turnstiles, i’r bobl oedd yn gwylio ar y teledu.
Ac yn yr ail grŵp – y gwylwyr teledu – y mae cymaint ohonon ni bellach. Dw i’n mynd i gemau pêl-droed yn reit aml, ond cynnyrch teledu yw’r Premier League i fi i raddau helaeth, a’r Champions League yn gyfan gwbl. Ac yn y bôn, dyw pêl-droed ar y lefel uchaf yn Lloegr erioed wedi delio â’r ffaith fod y berthynas rhwng ffans a’r clybiau wedi’i gwyrdroi.
Dyw hi ddim syndod bod chwech o’r Dirty Dozen yn glybiau Seisnig, ‘chwaith. Mae Prydain laissez-faire wedi gadael perchnogion arswydus o gefnog, wedi’u denu gan arian y teledu, i mewn heb ddim ffwdan.
Mae’r sefyllfa ychydig yn wahanol yn Sbaen lle mae dau horwth o glwb – Barça a Real Madrid (sydd â pherthynas od iawn â banciau Sbaen a chytundeb chwerthinllyd â’r darlledwyr) – wedi trin gweddill y gynghrair fel baw ers amser maith.
Mae perchnogaeth mega-gyfoethog yn Ffrainc a’r Eidal hefyd – ond i raddau llai na Lloegr. Yr Almaen yw’r eithriad: gan lwyddo i liniaru effeithiau buddsoddwyr ar y gêm gyda rheol ’50+1′ sy’n atal buddsoddwyr masnachol rhag perchen mwy na 49% o glwb – er bod y clwb mwya’, Bayern Munich (nad oedd yn rhan o’r Super League, er bo lle bach cyfleus wedi’i gadw ar eu cyfer), wedi cwyno am hyn fwy nag unwaith.
Ac yna…
Ond cyn i ni gael amser i ddyrannu’r bai am ‘ddiwedd pêl-droed fel ry’n ni’n ei adnabod’ (chwedl Sky), o fewn cwta 48 awr, roedd y Super League yn deilchion.
Cafwyd sibrydion bod dau glwb o Loegr (Man City a Chelsea, er mawr syndod i mi) yn cael traed oer. Ac yna, un ar ôl y llall, fe dynnon nhw allan gyda dilyw o ddatganiadau gofalus ac ymddiheuriadau annigonnol, gan adael y fenter yn adfail sy’n brawf o un peth – y gagendor enfawr sydd rhwng perchnogion clybiau pêl-droed mawr a’r cefnogwyr.
Y gagendor hwnnw oedd sail y cynlluniau cywilyddus, wrth gwrs. Dyw’r perchnogion ddim wedi arfer â rheoli ased sy’n gallu colli miliynau ar fympwy gêm.
Byddai ffan yn cefnogi ei dîm p’un a yden nhw’n gwneud yn dda ai peidio (wel, y rhai go iawn!). Mae buddsoddwyr yn edrych ar yr un sefyllfa ac yn dymuno dileu’r goblygiadau o beidio gwneud yn dda. Dyna ffaeledd mwya’r hyn a gynigiwyd – yng ngeiriau Pep Guardiola, rheolwr Man City, sy’ ddim yn un i ffoi rhag arian: “It’s not sport if it doesn’t matter when you lose”.
Mae’r holl ffars wedi gadael UEFA – awdurdod sydd â’i broblemau difrifol ei hun – mewn sefyllfa gref i weithredu ei gynlluniau newydd ar gyfer pêl-droed Ewropeaidd. Cynlluniau sydd, i raddau helaeth, yno i blesio’r clybiau cyfoethog dan sylw, gan sicrhau nad yw tymor gwael yn golygu na chânt chwarae yn Ewrop. Roedd clybiau’r Super League wedi gweld hyn ac eisiau hyd yn oed mwy.
‘Game’s gone…?’
Mewn gwirionedd, ry’n ni eisoes wedi colli gwir gystadleuaeth Ewropeaidd gyda chlybiau fel Red Star Belgrade a Steaua Bucharest yn methu cystadlu, a chlybiau gwirioneddol ‘super’ fel Ajax a Benfica’n prysur ymuno â nhw, tra bod clybiau cyfoethog yn cael eu gwarchod fwyfwy. Welwn ni fyth eto orchest fel Nottingham Forest a Brian Clough.
Mae coup y Dirty Dozen wedi troi’n embaras, do, ond mae eu statws gwarchodedig eisoes yn sâff – fydd unrhyw gosb a ddoith yn sgil hyn ddim yn newid hynny yn y tymor hir.
Ma’ ’na ddywediad ymhlith cefnogwyr pêl-droed wrth gwyno am ddatblygiadau’r gêm, sef ‘the game’s gone’. Mae’r dywediad wedi troi’n dipyn o jôc gan gael ei ddweud am unrhywbeth, bron iawn. Deifio? Game’s gone. Chwaraewyr yn gwisgo menig? Game’s gone.
Fe gododd y Super League gryn ofn ar bobol pêl-droed – fel dd’wedodd ffrind ar whatsapp: “I think the game really is gone this time” – ond hyd yn oed ar ôl methiant chwerthinllyd y fenter, gyda grym ariannol y clybiau dan sylw, a’r gagendor rhwng y perchnogion a’r bobl sy’n cerdded drwy’r gatiau, mae’r gêm ar y lefel ucha’ yn parhau ar ei thaith ymaith.
Yn y cyfamser, ma’ peint reit neis i ga’l yn rhai o clubhouses Uwchgynghrair Cymru, a mynediad i’r caeau yn fargen. Falle bod y gêm go iawn erioed wedi mynd i nunlle…