Mae ymchwil gan Goleg Prifysgol Llundain (UCL) yn awgrymu bod traean yn llai o bobol yng Nghymru bellach yn cadw’n dynn at gyfyngiadau Covid-19.
Yn ôl yr astudiaeth, fe gwympodd y ganran oedd yn dilyn y cyfyngiadau’n fanwl o 60% ym mis Chwefror i 40% ym mis Mai.
Mae lle i gredu mai “negeseuon cymysg” y llywodraeth yw’r prif ffactor, er bod Llywodraeth Cymru’n dweud bod amrywiolyn India yn awgrymu’n gryf nad yw’r pandemig wedi dod i ben.
Mae’r gwymp sylweddol yn nifer y rhai sy’n cydymffurfio wedi’i hategu mewn astudiaeth arall gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda 76% yn cadw at y rheolau ym mis Mawrth ond dim ond 65% erbyn mis Mai.
Mae’r ymchwil hefyd yn awgrymu bod mwy o bobol yn cymdeithasu y tu allan i’w swigod tua diwedd y cyfnod hwn (57%) o’i gymharu â mis Mawrth (41%).
Serch hynny, dywedodd 91% eu bod nhw’n cadw at “y rhan fwyaf o’r rheolau”.
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, dim ond 8% sydd bellach yn “gofidio’n fawr” am ddal Covid – o’i gymharu â 31% ar ddechrau’r flwyddyn, ac mae lle i gredu mai nifer y bobol sydd wedi cael eu brechu â dau ddos o frechlyn Covid-19 sy’n gyfrifol am hyn.