Mae’r aelod seneddol oedd yn gyfrifol am gyllid yr SNP wedi camu o’r neilltu gan ddweud nad oedd ganddo fe ddigon o wybodaeth am y swydd i’w gwneud hi’n iawn.

Daeth cadarnhad neithiwr (nos Sadwrn, Mai 29) o ymadawiad Douglas Chapman, y trysorydd cenedlaethol sydd hefyd yn aelod seneddol yn Dunfermline a Gorllewin Fife.

Fe fu yn y swydd ers y llynedd.

Ac er ei fod yn dweud iddo gael “mandad sylweddol” gan aelodau i sicrhau mwy o dryloywder yng nghyllid y blaid, mae’n dweud na chafodd e “gefnogaeth na gwybodaeth ariannol i gwblhau dyletswyddau ariannol y Trysorydd Cenedlaethol”, a’i fod yn “difaru” bod yn rhaid iddo gamu o’r neilltu.

Dydy hi ddim yn glir beth arweiniodd at y sefyllfa, ond mae Kirsten Oswald, un arall o aelodau seneddol y blaid, yn dweud ei bod hi’n “anghytuno’n fawr” â barn ei chydweithiwr.

Serch hynny, mae’n dweud ei bod hi’n “parchu” ei benderfyniad.

“Mae gan bob trysorydd cenedlaethol yr SNP fynediad at wybodaeth ariannol fanwl ac maen nhw’n adrodd yn ôl i’r pwyllgor gwaith cenedlaethol bob mis,” meddai.

“Gall y pwyllgor gwaith cenedlaethol wneud cais am unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen arno.

“Mae cyfrifion yr SNP hefyd yn cael eu harchwilio’n annibynnol, eu cyflwyno i’r Comisiwn Etholiadol a’u cyhoeddi.”

‘Dim ymchwiliad gan yr heddlu’

Wrth ymateb, mae John Swinney, dirprwy arweinydd yr SNP, yn dweud nad yw’r heddlu’n cynnal ymchwiliad i gyllid y blaid.

Ond mae’r heddlu’n dweud eu bod nhw’n ceisio dod i benderfyniad ynghylch yr angen i ymchwilio i honiadau o dwyll gwerth £600,000 o arian y blaid.