Mae cannoedd o bobol wedi bod yn ymgynnull ar draws y gogledd heddiw (dydd Sadwrn, Mai 29) i brotestio yn erbyn cynnydd yn nifer yr ail gartrefi mewn sawl ardal.

Daeth pobol ynghyd i fyny’r ‘Hawl i Fyw Adra’ mewn sawl lle yn Llŷn, gan gynnwys Morfa Nefyn, Pistyll, Tudweiliog, Edern, Aberdaron a Sarn Mellteyrn.

Roedd rhagor o brotestiadau ym Môn, gan gynnwys y rheiny ar ffordd yr A55 yn y Gaerwen a Benllech.

Mae degau o gynghorwyr wedi bod yn pwyso ar Mark Drakeford i ddatrys “argyfwng yr ail gartrefi”, ac wedi ysgrifennu ato yn gofyn am wneud hynny’n flaenoriaeth i’w Lywodraeth.

Yn dilyn cyfarfod a gafodd ei drefnu gan Gyngor Tref Nefyn, mae cynghorwyr o sawl ardal yng Nghymru yn pwysleisio fod y diffyg rheolaeth ar brynu a gwerthu ail gartrefi “wedi mynd â phrisiau tai ymhell o afael pobol leol”.

Fel man cychwyn, mae’r grŵp yn gofyn i Lywodraeth Cymru weithredu ar argymhellion adroddiad Dr Simon Brooks ar unwaith.

“Erfyniwn arnoch i ddangos arweiniad i ddatrys yr argyfwng gan gyflwyno deddfwriaeth i warchod ein cymunedau a’n cyfoeth diwylliannol,” meddai’r cynghorwyr yn y llythyr.

“Byddai’n wych gweld gweithredu pendant sy’n dangos bod Cymru yn wlad foesol ac egwyddorol.”

Pistyll

“Mae prisiau tai wedi mynd yn wirion bost yn yr ardal,” meddai Aled Wyn Jones, Cynghorydd Sir dros ward Llanaelhaearn ar Gyngor Gwynedd, wrth golwg360.

“Yn Mhistyll, £257,000 am ddim byd!” pwysleisiodd wrth gyfeirio at gapel Tom Nefyn a gafodd ei werthu ar ocsiwn yn ddiweddar.

“Mae’n gwneud i chi sylweddoli yn fan hyn, beth sydd wedi digwydd i’r farchnad. Mae’n ymddangos i mi, bod nifer helaeth o bobol efallai yn ffeindio: ‘Rydyn ni’n gallu gweithio o adra rwan, does dim rhaid i’r adra fod ynghanol y ddinas, fedra adra fod ynghanol cefn gwlad cyn belled bod gennym ni WiFi yna’.

“Mae hynny i weld yn digwydd i mi, mae yna lot mwy o dai wedi gwerthu am brisiau na fysa rhywun byth yn credu fysa nhw’n mynd amdanyn nhw.

“Sydd yn ei wneud o’n arbennig o anodd i’r rhai ifanc sydd eisiau prynu am y tro cyntaf, oherwydd y tueddiad ydy, wrth gwrs, mae prisiau tai yn mynd fyny gyda phobol yn dod mewn ac yn gallu talu lot yn fwy na fysa person lleol yn gallu ei dalu.”

Degau o gynghorwyr yn pwyso ar y Prif Weinidog i ddatrys “argyfwng yr ail gartrefi”

Cadi Dafydd

“Yn y bôn, beth mae’n dod lawr iddo yw y cyfoethog yn manteisio ar y tlawd, neu’r cymharol dlawd,” meddai Cadeirydd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Gâr