Mae miloedd o bobol wedi ymgynnull yn Gwengamp yn Llydaw wrth i rali hawliau iaith gael ei chynnal ar yr un pryd â ras yr iaith.
Y rhwydwaith iaith Rouedad Ar Brezhoneg a chanolfan ddiwylliannol Ti Ar Vro sydd wedi trefnu’r digwyddiad, a’r disgwyl oedd y byddai hyd at 10,000 o bobol yno.
Fe ddaw ar ôl i Lywodraeth Ffrainc wrthod cyflwyno deddfwriaeth i sicrhau lle teilwng i’r Llydaweg yn ysgolion Ffrainc.
Byddai’r ddeddfwriaeth, a gafodd ei chynnig gan y gwleidydd Llydewig Paul Molac, wedi gosod system drochi ieithyddol ynghanol y system addysg gyhoeddus.
Fodd bynnag, mae Cyngor Cyfansoddiadol Ffrainc wedi dyfarnu bod y cynllun arfaethedig yn “anghyfansoddiadol” – a hynny am mai iaith gweriniaeth Ffrainc yw’r Ffrangeg.
Galw am weithredu
Fe fu cymdeithasau a rhwydweithiau diwylliannol, undebau a phleidiau gwleidyddol yn galw am weithredu i sicrhau bod lle teilwng i’r Llydaweg mewn ysgolion.
Ymhlith y siaradwyr yn y rali roedd nifer o ddisgyblion o ysgolion uwchradd Ffrangeg a Llydaweg a chynrychiolydd o’r Gymdeithas Addysg Boblogaidd, ond roedd y trefnwyr yn pwysleisio na fyddai gwleidydd yn siarad.
Mae’r Redadeg, neu ras yr iaith, yn dechrau ar ddiwedd y rali a bydd neges yn cael ei throsglwyddo ar hyd y dref cyn cael ei hagor a’i darllen yn gyhoeddus gan gynnig gobaith i ddyfodol yr iaith.