Mae Syr Iain Duncan Smith, cyn-arweinydd y Blaid Geidwadol, yn dweud mai amcan Dominic Cummings cyn-brif ymgynghorydd y prif weinidog, oedd “achosi cymaint o niwed â phosib” i Boris Johnson.

Daw hyn wrth iddo ddweud mai cyfrifoldeb Cummings oedd sicrhau bod Johnson yn canolbwyntio ar frwydro’r pandemig Covid-19 yn hytrach na rhoi’r flaenoriaeth i’w fywyd preifat.

Yn ôl Cummings, roedd y prif weinidog yng nghanol “cyfnod anodd iawn” fis Chwefror y llynedd, pan oedd Llywodraeth Prydain yn ceisio mynd i’r afael â’r feirws, ond fe ddylai fod wedi mynd i’r afael â “bywyd eithaf cymhleth” Boris Johnson.

Yn ôl Cummings wrth roi tystiolaeth i bwyllgor seneddol yr wythnos hon, roedd Boris Johnson yng nghanol ysgariad ac newydd ddechrau perthynas newydd â Carrie Symonds, ac roedd hi eisiau cyhoeddi eu bod nhw’n disgwyl plentyn.

‘Beth yw rôl Dominic Cummings?’

“Mae gyda ni i gyd bethau ac argyfyngau sy’n digwydd o fewn teuluoedd i fynd i’r afael â nhw, hyd yn oed pan ydyn ni’n rhedeg pethau,” meddai Syr Iain Duncan Smith wrth Radio 4.

“Mae’r syniad fod y rhain rywsut yn unigryw i’r prif weinidog – efallai o ran eu graddau ac efallai mewn bywyd eithaf cymhleth weithiau – ond dydy hynny ddim yn golygu na allwch chi ganolbwyntio.

“Ond beth yw rôl Dominic Cummings fel ei brif ymgynghorydd gwleidyddol?

“Strwythuro pethau o’i amgylch e fel bod yr eiliadau allweddol yn cael eu trin mewn ffordd strwythuredig, a’i alluogi fe i ganolbwyntio ar y gofynion a’r penderfyniadau sydd eu hangen.”

Mae’n dweud ymhellach mai nod Cummings oedd “achosi cymaint o niwed â phosib i Boris Johnson”, gan fod hynny “wrth galon ei gymeriad”.

Er ei fod yn cydnabod fod Cummings yn ddeallus a bod ganddo fe syniadau da, mae’n dweud nad oedd ganddo fe’r gallu i “gyd-dynnu”.

“Ac felly mae ei rwystredigaeth a’i ddicter fod barn pawb arall yn dwp – fel gyda fi, fel gyda Boris Johnson – does neb yn ddigon da i ddeall beth mae e wir ei eisiau, ac felly nhw sydd ar fai am hynny.”

Ac mae’n dweud ymhellach nad yw’r prif weinidog ddim ond cystal â’r “strwythur a’r bobol” o’i amgylch, a’i fod e wedi disgwyl problemau wrth benodi Cummings i’r swydd.