Fe fydd grwpiau o drefi’n cael cydweithio i wneud cais i fod yn Ddinas Diwylliant, wrth i Lywodraeth Prydain geisio helpu mwy o drefi a dinasoedd gyda’u hadferiad ar ôl Covid-19.

Dyma’r tro cyntaf i lefydd nad ydyn nhw’n ddinasoedd gael y cyfle i wneud cais.

Coventry yw’r Ddinas Diwylliant bresennol, ac mae Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan yn dweud y bydd angen “gweledigaeth gref ac unigryw ar gyfer eu twf yn y dyfodol” ar y ddinas neu drefi llwyddiannus.

Fel rhan o’r cais, bydd yn rhaid iddyn nhw ddangos sut gall dathlu treftadaeth a diwylliant dynnu cymunedau ynghyd, sut gall buddsoddi mewn diwylliant a chreadigrwydd yrru twf, sut fyddan nhw’n sicrhau mynediad i ddiwylliant ac yn datblygu partneriaethau ac yn dathlu cysylltiadau â llefydd eraill ledled y Deyrnas Unedig.

Hanes Dinas Diywlliant

Derry oedd y ddinas gyntaf i gael statws Dinas Diwylliant yn 2013, ac fe gawson nhw eu holynu gan Hull yn 2017.

Caiff enillydd ei ddewis bob pedair blynedd, ac maen nhw’n cael statws Dinas Diwylliant am flwyddyn.

Mae disgwyl i’r statws helpu Coventry i ddenu nifer fawr o ymwelwyr, wrth i’r ddinas gael buddsoddiad swmpus rhwng 2018 a 2022.

Y gobaith yw denu oddeutu 5,000 o wirfoddolwyr i’r ddinas a chreu dros 900 o swyddi.

Er mwyn annog mwy o lefydd i wneud cais, mae Llywodraeth San Steffan yn cynnig hyd at £40,000 i chwe lle ar y rhestr fer i helpu eu ceisiadau.

Bydd panel o 11 o bobol annibynnol yn dewis yr enillydd.

‘Cyfle gwych i arddangos effaith enfawr diwylliant’

“Mae Dinas Diwylliant y DU yn gyfle gwych i ddangos effaith enfawr diwylliant ar drefi a dinasoedd ledled y wlad,” meddai Oliver Dowden, Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan.

“O Derry-Londonderry i Hull a Coventry, mae enillwyr blaenorol wedi dangos sut gall y gystadleuaeth gyflwyno mwy o gyfranogiad diwylliannol, gyrru adfywiad economaidd a hybu balchder lleol.

“Rwy’n annog trefi a dinasoedd ledled y DU i gyflwyno cais ar gyfer 2025 ac i hybu eu sîn gelfyddydau a diwylliant leol.

“Rwy’ hefyd wrth fy modd o gael cadarnhau y bydd y gystadleuaeth yn rhedeg yn y blynyddoedd i ddod, fel rhan o’n hymrwymiad i roi diwylliant ar dir gwastad yn y DU gyfan.”