Mae un o weinidogion Llywodraeth yr Alban yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ymestyn y dyddiad cau i drigolion yr Undeb Ewropeaidd wneud cais i aros yng ngwledydd Prydain.

Y dyddiad cau i wneud cais am statws preswyl yw Mehefin 30, ond mae pryderon yn yr Alban nad yw miloedd o bobol wedi gwneud cais eto.

Mae Jenny Gilruth, Gweinidog Ewrop yr Alban, yn rhybuddio y bydd bywydau’r bobol hynny nad ydyn nhw’n gwneud cais “â’i ben i waered”.

Byddai’r statws arbennig yn eu galluogi nhw i barhau i fyw a gweithio yng ngwledydd Prydain gyda’r cyfnod pontio ar gyfer Brexit a’r rhyddid i symud wedi dod i ben.

Yn ôl Jenny Gilruth, fydd pobol nad ydyn nhw’n gwneud cais “ddim yn gallu gweithio, astudio, hawlio budd-daliadau, gyrru car nac agor cyfrif banc”.

Mae’n dweud bod ymestyn y dyddiad cau yn “ffordd syml ac ymarferol o osgoi sgandal Windrush arall”, ac mai “yr Alban yw eich cartref, chi yw ein teulu, ac rydyn ni eisiau i chi aros yma gyda ni”.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 5.4m o geisiadau wedi’u cyflwyno hyd yn hyn, gyda statws wedi’i roi i fwy na 4.9m o bobol.

Daeth 89,800 o geisiadau o Gymru erbyn Ebrill 30, gyda 4.88m o Loegr, 268,500 o’r Alban ac 88,600 o Ogledd Iwerddon.