Mae dyn o Balesteina wedi’i saethu’n farw yn ystod protest yn erbyn ehangu treflan mae Israel wedi’i meddiannu yn y Lan Orllewinol.
Mae’r dreflan ger tref Beita yn un o ddwsinau o dreflannau tebyg ar hyd y Lan Orllewinol wrth i Israel geisio atgyfnerthu eu grym dros Balestiniaid.
Daeth cannoedd o Balestiniaid ynghyd ar y bryniau i ddangos eu dicter, gyda dwsinau ohonyn nhw’n llosgi teiars ac yn taflu cerrig at filwyr oedd yn saethu atyn nhw â bwledi, bwledi rwber a nwy ddagrau.
Cafodd dyn 26 oed ei saethu’n farw a chafodd pump yn rhagor o bobol eu saethu a’u hanafu.
Wnaeth byddin Israel ddim ymateb ar unwaith i’r digwyddiad.
Daw’r digwyddiad diweddaraf ar ôl 11 diwrnod o wrthdaro rhwng Israel a Hamas, sy’n rheoli Llain Gaza.
Cafodd mwy na 250 o bobol, y rhan fwyaf ohonyn nhw’n Balestiniaid, eu lladd yn y brwydro ffyrnig a ddaeth i ben yr wythnos ddiwethaf.
Cafodd mwy na 4,000 o rocedi eu tanio at Israel yn ystod y gwrthdaro, tra bod Israel wedi bomio cannoedd o leoliadau oedd yn gysylltiedig â’u gwrthwynebwyr yn Gaza.