Mae ymchwil newydd yn dangos bod 8.6% yn llai o alcohol wedi’i werthu yng Nghymru o gymharu â gorllewin Lloegr ers i isafswm pris gael ei gyflwyno fis Mawrth y llynedd.

7.7% yw’r ffigwr yn yr Alban o gymharu â gogledd-ddwyrain Lloegr – cafodd isafswm pris ei gyflwyno yn yr Alban yn 2018, a 50c yr uned yw’r isafswm ar hyn o bryd.

Yn ôl ymchwilwyr, “ar gyfer yr Alban a Chymru, roedd gostyngiadau mewn prynu alcohol wedi’i gyfyngu’n bennaf i aelwydydd oedd yn prynu’r cyfanswm mwyaf o alcohol”, a gosod isafswm pris yw’r “opsiwn polisi gorau” y dylid ystyried ei ehangu.

Roedd yr astudiaeth yn edrych ar fwy nag 1.24m o werthianau alcohol unigol rhwng 2015 a 2018 ac yn ystod hanner cyntaf 2020, gyda’r cyfnod hwn yn rhoi sylw i 35,000 o aelwydydd wnaeth brynu alcohol.

Yn yr aelwydydd sy’n prynu’r cyfanswm mwyaf o alcohol y cafodd yr effaith fwyaf ei gweld, ond mae yna eithriad o edrych ar aelwydydd incwm isel sy’n dal i brynu cyfanswm sylweddol o alcohol beth bynnag ac mae hynny’n “destun pryder” yn ôl cyd-awdur yr ymchwil, yr Athro Eileen Kaner.

“Mae hyn yn rywbeth rydyn ni am ymchwilio iddo ymhellach fel y gallwn ni ddeall yn well y rhesymau y tu ôl i hyn yn ogystal â’i effaith,” meddai.

Yn ôl yr Athro Peter Anderson, arweinydd yr ymchwil, “gallwn weld nawr fod cyflwyno isafswm pris yr uned yng Nghymru ar ddechrau Mawrth 2020 wedi cael effaith debyg i’r un a welsom yn yr Alban yn 2018 a gobeithiwn weld buddiant parhaus”.

“Mae hwn yn gam pwysig tuag at fynd i’r afael â lefelau uchel o broblemau iechyd sy’n gysylltiedig ag alcohol a niwed cymdeithasol sydd wedi’i achosi gan ormod o alcohol,” meddai wedyn.

Ymateb

Wrth ymateb i’r ymchwil, mae’r Athro Syr Ian Gilmore, cadeirydd Cynghrair Iechyd Alcohol, yn galw ar Lywodraeth Prydain i ddilyn esiampl Cymru a’r Alban yn Lloegr a chyflwyno isafswm pris yr uned.

“Dyma dystiolaeth bwerus, bywyd go iawn o lwyddiant prisio isafswm yr uned fel polisi i leihau niwed,” meddai.

“Mae San Steffan wedi dweud dro ar ôl tro eu bod yn aros am dystiolaeth gan yr Alban a Chymru ar brisio isafswm yr uned, ac yn y cyfamser, mae 80 person yn marw bob dydd o ganlyniad i achosion yn ymwneud ag alcohol.

“Mae’r dystiolaeth yma – mae’n bryd i’r llywodraeth gyflwyno prisio isafswm yr uned yn Lloegr er mwyn achub bywydau, torri torcyfraith a lleihau’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd a’r gwasanaethau brys.”