Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi creu gradd newydd sbon danlli ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf – Perfformio Lleisiol.

Gan adeiladu ar lwyddiant rhaglenni ôl-raddedig Academi Llais Rhyngwladol Cymru, bydd y BMus (Anrh) Perfformio Lleisiol yn rhaglen arbenigol fydd yn canolbwyntio ar y diwydiant o safbwynt cantorion.

Fe fydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno gan academyddion arbenigol ac ymarferwyr “o fri cenedlaethol a rhyngwladol” mewn cyfleuster arbenigol.

Ar safle’r brifysgol yng Nghaerdydd, bydd y myfyrwyr yn cael cynnig hyfforddiant lleisiol fesul un, a dosbarthiadau meistr gan artistiaid byd-enwog, meddai’r Brifysgol.

Bydd rhannau o’r radd yn archwilio meysydd megis techneg lleisiol, astudiaethau perfformiad, symudiad, theori cerddoriaeth, technoleg perfformio, a phrosiectau perfformio.

‘Y diwydiant’ yn ganolog

“Bydd myfyrwyr ar y rhaglen BMus newydd yn astudio llais mewn cyd-destun cyfannol, gan eu galluogi i ymwneud â pherfformiad mewn amrywiaeth o leoliadau, a’u cyflwyno i’r llu o gyfleoedd sydd ar gael ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol,” meddai David Bebbington, Rheolwr Academi Llais Rhyngwladol Cymru, a Chyfarwyddwr y Rhaglen.

“Mae ‘y diwydiant’ yn ganolog i weledigaeth y rhaglen, ac o’r herwydd, bydd elfennau o’r cwrs yn cynnwys agweddau ar berfformio, recordio, symud, theori cerddoriaeth a thechnegau stiwdio er enghraifft.

“Ar ddiwedd y cwrs, bydd y myfyrwyr yn symud i berfformiad, creu cerddoriaeth, addysgu neu lu o gyfleoedd cerddoriaeth sesiwn eraill.”

“Cyfle cyffrous”

“Mae’r Brifysgol yn falch o weld datblygiad strategol BMus mewn Perfformio Lleisiol yn Academi Llais Ryngwladol Cymru,” meddai’r Pro Is-ganghellor a Phennaeth Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru, Barry Liles.

“Rydyn ni’n credu y bydd y rhaglen hon yn gyfle cyffrous i nifer sylweddol uwch o israddedigion ymuno â’n hacademi enwog sydd o safon fyd-eang.

“Yn seiliedig ar ein henw clodwiw yn y maes lleisiol hwn, bydd y rhaglen newydd yn darparu cyfleoedd dilyniant i’n myfyrwyr ar ôl astudio ôl-raddedig neu’n ymarferwyr yn y sector.”