Bu Boris Johnson yn “annoeth” wrth ganiatáu gwaith adnewyddu ar ei fflat yn Stryd Downing, heb “fwy o ystyriaeth ynghylch sut i’w ariannu”, yn ôl adroddiad ar y mater.
Fe wnaeth yr Arglwydd Geidt, cynghorydd ar safonau gweinidogol, gyhoeddi ei adroddiad cyntaf ddydd Gwener, yn dilyn misoedd o oedi.
Daeth i’r canlyniad fod yna “fethiannau sylweddol” gan swyddogion ynghylch pa mor “fanwl” y gwnaethon nhw archwilio’r syniad o sefydlu ymddiriedolaeth er mwyn talu am waith adnewyddu.
Gall y Prif Weinidog ddefnyddio grant cyhoeddus o hyd at £30,000 y flwyddyn er mwyn addurno ei gartref, ond roedd adroddiadau’n dweud fod y gwaith ar Rif 11 Stryd Downing wedi costio hyd at £200,000.
Bu trafodaethau ynglŷn â’r posibilrwydd o sefydlu Ymddiriedolaeth Stryd Downing er mwyn talu am y gwaith, cyn i gyngor cyfreithiol “godi amheuon” a fyddai corff o’r fath “yn gallu ymdopi â chostau’n ymwneud ag eiddo preifat” ym mis Mehefin 2020.
Fe wnaeth cyn-brif ymgynghorydd Boris Johnson, Dominic Cummings, honni ym mis Ebrill fod y Prif Weinidog wedi cynllunio i gael rhoddwyr Torïaidd i dalu am y costau, gan alw’r cynllun yn un “anfoesol, gwirion, [ac] efallai’n anghyfreithlon”.
“Annoeth”
Daeth yr Arglwydd Geidt i’r canlyniad fod Boris Johnson ddim yn gwybod fod y rhoddwr Torïaidd, yr Arglwydd Brownlow, wedi dod ynghlwm â’r mater yn absenoldeb sefydlu ymddiriedolaeth.
“Erbyn diwedd hydref 2020, roedd e’n amlwg y byddai ymddiriedolaeth a fyddai’n gallu cyrraedd y gofynion gwreiddiol (gan gynnwys costau adnewyddu Rhif 11 Stryd Downing) yn debygol o gymryd misoedd [i’w sefydlu],” meddai’r adroddiad.
“Ar Hydref 20 2020, fe wnaeth yr Arglwydd Brownlow gadarnhau i swyddogion yn Swyddfa’r Cabinet ei fod wedi sortio anfoneb ar gyfer y gwaith adnewyddu ar y fflat yn Rhif 11 Stryd Downing gyda’r cyflenwr y diwrnod blaenorol,” meddai’r adroddiad, gan esbonio fod yr Arglwydd Brownlow wedi sicrhau fod y ffaith wedi cael ei gofnodi gan Swyddfa’r Cabinet.
“Mae’n ymddangos na wnaeth swyddogion Swyddfa’r Cabinet weithredu ar y wybodaeth hon er mwyn dweud wrth y Prif Weinidog, heb sôn am gynnig cyngor iddo am faterion preifat.
“Yn ogystal, er bod y Prif Weinidog a’r Arglwydd Brownlow wedi cael peth cysylltiad yn ystod y tri mis canlynol, nid yw’r record yn dangos tystiolaeth fod y Prif Weinidog wedi cael gwybod gan yr Arglwydd Brownlow ei fod wedi setlo’r costau yn bersonol.”
Dywedodd yr Arglwydd Geidt, fod y Prif Weinidog – “yn annoeth, yn fy marn i” – wedi caniatáu i’r gwaith fynd yn ei flaen heb feddwl mwy ynghylch sut y byddai’n talu.
Ond dywedodd nad oedd Boris Johnson yn gwybod unrhyw beth ynghylch y taliadau gan yr Arglwydd Brownlow nes i’r stori ymddangos yn y wasg.
“Ymddwyn o fewn y Cod Gweinidogol”
Pan wnaeth Boris Johnson gael gwybod am y taliadau ym mis Chwefror 2021, fe wnaeth e ofyn am gyngor ar unwaith a thalu am y costau’n llawn ei hun ar Fawrth 8 2021, meddai’r Arglwydd Geidt.
“Mae adroddiad annibynnol yr Arglwydd Geidt yn dangos fod y Prif Weinidog wedi ymddwyn o fewn y Cod Gweinidogol drwy’r amser,” meddai llefarydd ar ran Boris Johnson.
“Mae’r Prif Weinidog wedi gwneud datganiad ar ei Restr o Ddiddordebau Gweinidogol, fel y cafodd ei gynghori gan yr Arglwydd Geidt.
“Oni bai am waith sy’n cael ei ariannu drwy’r lwfans blynyddol, nid yw costau’r adnewyddu ehangach ar y fflat yn cael eu talu gan drethdalwyr, ac maen nhw wedi cael eu talu gan y Prif Weinidog yn bersonol.”