Mae pryderon am ddyfodol Gŵyl Ffrinj Caeredin wrth i’r cyfyngiadau Covid-19 presennol yn yr Alban ei gwneud hi’n annhebygol y bydd modd cynnal y digwyddiad eleni.

Mae’r trefnydd yn galw ar Lywodraeth yr Alban i lacio’r pellter cymdeithasol o ddwy fetr ar gyfer y diwydiant lletygarwch o fewn y bythefnos nesaf er mwyn i’r ŵyl gael mynd yn ei blen.

Fel arall, mae Shona McCarthy yn dweud bod pryderon gwirioneddol am ddyfodol y digwyddiad sydd wedi’i gynnal ers 75 mlynedd.

“O fewn pythefnos arall, mae’n mynd i fod yn amhosib i unrhyw [hyrwyddwr] drefnu unrhyw beth,” meddai wrth The Times Scotland.

“Mae perygl gwirioneddol am ddyfodol y Ffrinj.

“Roedd modd dod i ben â blwyddyn heb yr ŵyl, ac roedden ni’n gallu ei chadw ym meddyliau a chalonnau pobol ac roedd pawb yn dal â’r gofod hwnnw yn eu calendr fel yr eiliad flynyddol i ailgysylltu a dod ynghyd.

“Ar ôl dwy flynedd, rydych chi’n peryglu’r gofod cadarn fu gan y Ffrinj ers 75 mlynedd.”

Ffrinj 2021

Cafodd yr ŵyl ei chanslo am y tro cyntaf erioed y llynedd.

Mae’r broses gofrestru ar-lein ac mewn person ar gyfer y digwyddiad eleni wedi bod ar agor ers dechrau’r mis.

Mae disgwyl i’r ŵyl gael ei chynnal rhwng Awst 6-30.

Mae disgwyl i Lywodraeth yr Alban gyhoeddi’r rownd nesaf o lacio cyfyngiadau ar Fehefin 7.