Mae Cyngor Gwynedd wedi penderfynu dileu dirwyon am lyfrau a ddychwelir yn hwyr i lyfrgelloedd y sir.
Yn ystod y pandemig, cymerwyd penderfyniad i estyn dyddiadau dychwelyd yn otomatig, a olygai nad oedd llyfrau byth yn hwyr.
Mae’r penderfyniad gan y Cyngor a fydd yn ei le o Ebrill 1, 2021, yn golygu na fydd defnyddwyr yn cael eu cosbi am lyfrau a ddychwelir yn hwyr o hyn ymlaen.
Mae dirwyon ar lyfrau plant a phobl ifanc dan 18 oed wedi eu hatal yng Ngwynedd ers nifer o flynyddoedd. Cyflwynwyd y drefn gan fod teimlad bod dirwyon yn rhwystr sy’n atal pobl ifanc a theuluoedd rhag defnyddio’r llyfrgell – mae’r un egwyddor bellach yn weithredol ar gyfer llyfrau hwyr a ddychwelir gan oedolion.
Hunan gymorth
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sydd â chyfrifoldeb am lyfrgelloedd: “Rydw i’n falch iawn ein bod yn gwneud i ffwrdd â dirwyon ar lyfrau hwyr ar gyfer oedolion. Ein bwriad ydi annog pobl Gwynedd i wneud y mwyaf o’r holl stoc llyfrau, yn cynnwys ein casgliadau o lyfrau iechyd a hunan gymorth sydd ar gael yn ein llyfrgelloedd.
“Trwy gydol y cyfnod Covid, rydym wedi peidio codi ffioedd ar lyfrau sy’n cael eu dychwelyd yn hwyr. Rydan ni’n gwybod fod pobl wedi ei chael yn anodd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae nifer fawr o bobl wedi gweld eisiau gallu mynd draw i’w llyfrgell leol yn ystod y cyfnodau clo.
“Y gwir ydi fod llawer o bobl yn gweld dirwyon fel rhwystr rhag gwneud y mwyaf o lyfrgelloedd. Ein gobaith ydi fod gwneud i ffwrdd a dirwyon yn llwyr yn ffordd i annog mwy o bobl i ddefnyddio’u llyfrgell heb ofni y byddant yn cael eu cosbi os ydynt yn dychwelyd eu llyfrau ychydig ddyddiau yn hwyr.
Amhrisiadwy
“Mae llyfrgelloedd yn adnoddau amhrisiadwy i bawb yn y gymuned, ac rydym am gael gwared ar unrhyw rwystrau a allai atal pobl rhag gwneud defnydd llawn ohonynt.”
Mae Gweriniaeth Iwerddon wedi atal dirwyon yn llwyr ers Ionawr 2019, ac mae o leiaf 15 Awdurdod Llyfrgell ym Mhrydain wedi atal dirwyon o fewn y blynyddoedd diwethaf. Bydd Gwynedd ymhlith yr ychydig Awdurdodau Llyfrgell yng Nghymru i wneud i ffwrdd â dirwyon.
Bydd unrhyw ddirwyon presennol ar gyfrifon defnyddwyr llyfrgelloedd Gwynedd bellach yn cael eu dileu, gan roi llechen lan i bawb ymweld â’u llyfrgell pan fydd trefniadau presennol o adnewyddu awtomatig wedi dod i ben, a’r cyfnod benthyg penodol yn cael ei adfer.
Fodd bynnag, mae’r Gwasanaeth Llyfrgell yn pwysleisio bod angen i ddefnyddwyr eu cynorthwyo drwy ddychwelyd eu llyfrau o fewn amser rhesymol. Er na fydd dirwy dan y drefn newydd, bydd disgwyl i ddefnyddwyr ddychwelyd llyfrau o fewn 12 wythnos i’r dyddiad dychwelyd cyn cael nodyn yn gofyn iddynt ddychwelyd eu llyfr, neu dalu amdano.
Gall unrhyw un gadw golwg ar eu cyfrif llyfrgell trwy ymweld a www.gwynedd.llyw.cymru/catalogllyfrgell a mewngofnodi gyda’u rhif cerdyn aelodaeth a’u PIN.