Mae Prif Ddysgwr Eisteddfod T wedi cael ei chanmol am ddangos “angerdd a gweledigaeth” wrth fynd ati i ddysgu’r Gymraeg.
Phoebe Skinner, 18 oed o Gaerdydd, ddaeth i frig y gystadleuaeth a chafodd ei henw ei gyhoeddi mewn seremoni arbennig yn fyw o Wersyll yr Urdd yn Llangrannog.
Jason Mohammad oedd yn beirniadu.
Mae Phoebe newydd sefyll ei harholiadau Safon Uwch yn Ysgol Uwchradd Caerdydd ac mae hi’n bwriadu mynd i’r brifysgol i astudio Cerddoriaeth ym mis Medi.
“Mwynheais ein gwersi Cymraeg yn yr ysgol yn fawr, a dw i wrth fy modd yn gweithio mewn siop lyfrau Cymraeg. Dw i’n gobeithio y bydd fy ngwaith buddugol yn annog pobl ifanc eraill i astudio Cymraeg yn y chweched dosbarth; mae’n brofiad anhygoel,” meddai Phoebe.
Cafodd y gystadleuaeth ei noddi gan Fwydydd Castell Hywel, ac mae Phoebe wedi derbyn tlws arbennig wedi ei greu gan y cerflunydd Ann Catrin Evans.
Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Kiera Jones o Ferthyr Tudful a Matthew Minshull o Henllan, Sir Ddinbych yn drydydd.
‘Hollol ryfeddol’
Gofynion cystadleuaeth Prif Ddysgwr Eisteddfod T oedd creu cyflwyniad ar ffurf fideo fyddai’n ysbrydoli cynulleidfa, ac roedd gwylio’r holl gynnwys yn brofiad “hollol ryfeddol” yn ôl y beirniad.
“Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi cystadlu eleni,” ychwanega Jason Mohammad.
“Roedd y fideos yn llawn o angerdd am yr iaith Gymraeg… gyda geirfa ardderchog, acenion hyfryd. A beth oedd yn bwysig iawn hefyd — roedden nhw’n dod o ardaloedd ar draws y byd: o Gaerdydd i Batagonia!
“Roedd gan Phoebe angerdd a gweledigaeth ar gyfer yr iaith… Roedd ei chariad at y Gymraeg yn amlwg. Mae hi’n dangos yn glir pam y dylech chi nid yn unig wneud y Gymraeg fel pwnc yn yr ysgol, ond hefyd ei defnyddio hi yn eich bywyd bob dydd.”
Mae modd dod o hyd i holl ganlyniadau Eisteddfod T hyd yma drwy ymweld â gwefan s4c.cymru/urdd
Bydd Eisteddfod T yn cael ei chynnal gydol yr wythnos hon, 31 Mai – 4 Mehefin, gyda 12,000 o gystadleuwyr wedi cystadlu mewn dros 120 o gystadlaethau.
Mae modd ymuno yn yr hwyl, ar deledu, radio ac ar-lein a bydd canlyniadau a gwybodaeth ar wefan s4c.cymru/urdd ac ar gyfryngau cymdeithasol yr Urdd gyda’r hashnod #EisteddfodT.
- Mae Golwg360 yn falch o gyflwyno canlyniadau cystadlaethau’r adran Greu yma. Mwynhewch y darllen.