1. Siwan Mair Jones, Ysgol Bro Myrddin, Gorllewin Myrddin

Adolygiad o theatr fyw

Adolygiad ‘Eye of the storm’ gan gwmni Theatr Na Nog. Perfformiad a ysgrifenir a’i chyfarwyddo gan Geinor Styles.

Llwyfan traddodiadol, Proseniwm a ddefnyddir yn y ddrama. Roedd y gynulleidfa o flaen y llwyfan ac yn edrych i fewn ar y perfformiad. Yn bendant, roedd y llwyfan a’r set yn creu awyrgylch bywyd go iawn. Roedd yna ddau gylch yn the ‘Eye of the Storm’, roedd un cylch wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer y band a’r cylch arall ar gyfer yr actorion. Dechreuodd y ddrama gyda lliwiau ac awyrgylch tywyll a wnaeth gyfleu awyrgylch stormus ac wrth gwrs ‘Hurricane Boris’, ond wrth i’r bore ddod, fe oleuodd lliwiau’r set i gyfleu bod yr awyr wedi clirio. Trwy gydol y ddrama gwelwn y lliwiau yn amrywio i adlewyrchu tywydd a theimladau’r cymeriadau yn ystod y golygfeydd. Newidodd y set sawl gwaith yn ystod y perfformiad i fod yn ystafell ddosbarth, gorsaf betrol, y gystadleuaeth Ffiseg, clyweliad y fam, salon y chwaer ac wrth gwrs cartref Emmie yn y garafan. Cafodd llawer fawr o bropiau eu defnyddio ar gyfer y set er mwyn ei wneud mor realistig â phosibl. Roeddwn ni’n hoff iawn o set y ddrama, ni fydden ni’n newid dim amdano gan ei fod yn cyfleu y stori a’r ardaloedd gyda manylder. Roeddwn ni hefyd yn hoffi’r ffaith bod yr offerynwyr ar y set ac yn weladwy. Gwnaethon nhw ddefnyddio gwagle y llwyfan yn gall, er pa mor fach oedd e!

Yn fras, Mae stori’r ddrama i gyd am freuddwyd ac hanes Emmie, y brif gymeriad, sydd am fynd i brifysgol yn Indiana i astudio stormydd a’r tywydd. Does gan neb wir ffydd a chred ynddi ei bod hi’n mynd i gyrraedd yno. Mae Angela sef mam Emmie yn gwella o fod yn alcoholig ac mae’r athro Ffiseg yn ceisio ei pherswadio hi i beidio cymryd ffiseg, er bod angen y pwnc arni i gyrraedd Indiana. Yr unig person sydd gyda ffydd yn Emmie ydy Lloyd sydd â theimladau dwys amdani. Mae Emmie mewn penbleth os ddylai hi ddilyn ei breuddwyd neu aros adref i ofalu a gwarchod am ei mam. Daeth cyfle iddi brofi i’r athro Ffiseg bod ganddi’r gallu i gymryd Ffiseg fel un o’i pynciau lefel A trwy gymryd rhan mewn cystadleuaeth STEM, gyda’i dyfais a oedd yn creu egni adnewyddadwy. Ond a lwyddodd hi? Bydd rhaid i chi wylio i ddarganfod!

Yn fy marn i, neges y perfformiad yw i ddilyn breuddwydion ac i beidio rhoi i fyny. Mae’n cyfleu neges o obaith gan nad oedd Emmie yn rhoi i fyny ei breuddwydion. Ar y llaw arall roedd hefyd teimlad o benbleth yn y ddrama gan fod Emmie ddim yn gwybod os ddylai dilyn ei breuddwydion neu edrych ar ôl ei mam. Felly, roedd y ddrama am addysgu’r gynulleidfa i ddilyn eu breuddwydion a bod angen methu cyn llwyddo, yn union fel gwnaeth Emmie. Roeddwn yn hoff iawn o sawl golygfa ond credaf bod yr olygfa cychwynol yn hynod o effeithiol. Roeddwn ni’n hoffi ei fod wedi cychwyn gyda lliwiau tywyll a technegau sain stormus i fynd gyda theitl y ddrama ‘Eye of the Storm’. Hoffais yr acen Americanaidd y dyn a’r gân canodd Emmie oherwydd ei fod yn cyfleu awyrgylch talaith De America yn union lle mae breuddwyd Emmie wedi cael ei leoli, sef Indiana. Teimlais bod y ffaith bod yr offerynwyr yn chwarae yn y cefndir wrth i’r actorion siarad yn creu naws hyfryd sydd yn ein denu i wrando a gwylio ymlaen. Roedd y ffordd roeddent wedi cynnwys rhagolygydd tywydd ar y sgrin yn siarad am storm Boris yn creu tensiwn ac yn glyfar iawn. Roedd symudiadau a mynegiant wynebol Emmie yn dangos yn glir pa mor gyffrous oedd hi am y freuddwyd. Erbyn diwedd yr olygfa yma, diffoddodd y golau’n sydyn a chreu sain swnllyd a wnaeth cyfleu toriad pwer.

Dehongliodd y cyfarwyddwr y ddrama i fod yn berfformiad Sioe Gerdd. Yn ychwanegol i’r actio roedd y perfformwyr hefyd yn canu. Roedd yr actorion hefyd yn rhan o fand a oedd ar y llwyfan trwy gydol y ddrama. Roedd llawer o bwyntiau effeithiol yn y perfformiad. Credaf bod y ffordd yr oeddent yn newid y set ac yn symud y propiau a’r dodrefn i ffwrdd ac ymlaen i’r llwyfan yn effeithiol oherwydd roedd yn gwneud i’r perfformiad edrych yn llyfn. Yn bendant, credaf fod Geinor Styles wedi dehongli’r ddrama’n llwyddiannus, roedd y ddrama’n deallus ac yn llifo’n llyfn. Trwy gydol y perfformiad gwelon amrywiaeth eang o emosiynau a theimladau. Gwelon hefyd ambell i drobwynt i gynnal diddordeb y gynulleidfa. Wrth gwrs, roedd yr actorion hefyd yn cynnal diddordeb y gynulleidfa oherwydd pa mor glir a rhagorol yr oeddent. Roedd pob un o’r actorion wedi amrywio symudiadau, osgo, lefelau a mynegiant wynebol a wnaeth y golygfeydd unwaith eto’n effeithiol.

Gorffenodd y ddrama gyda stormydd a’r un cân a beth gychwynodd y ddrama a oedd yn hynod o effeithiol yn fy marn i. Fe wnes i fwynhau’r perfformiad mas draw, roedd e’n grêt! Bydden i wrth fy modd i weld perfformiadau theatr Na Nog eto gan fy mod wedi mwynhau ‘Eye of the Storm’ gymaint. Yn bendant, heb amheuaeth, gwnaeth y cwmni argraff arnai gan eu bod nhw wedi paratoi’n drylwyr ac wedi dehongli’r ddrama mor effeithiol. Gwnaeth y berfformiad gwneud i ni, y gynulleidfa i feddwl yn ddrylwyr ac i ddilyn ein breuddwydion. Yn sicr, roedd gan y perfformiad, neges gadarnhaol a roddodd argraff arnom. Roedd y perfformiad wedi codi fy hwyliau a gwneud i mi wenu, gan ei fod wedi gorffen gyda diweddglo hapus a chadarnhaol. Rwyf yn argymell i unrhyw un fynd i weld y perfformiad! Mae’n werth ei weld!

Efa Mair Thomas

2. Efa Mair Thomas, Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, Caerdydd a’r Fro

Adolygiad o’r ffilm ‘Groundhog Day’

Cafodd ‘Groundhog Day’ ei ryddhau yn 1993, gyda Bill Murray yn serennu fel y prif actor. Roedd Groundhog Day yn lwyddiant ysgubol o ran gwerthiant tocynnau sinema ar draws y byd. Yn wir, gwnaeth y ffilm elw o 80 miliwn o ddoleri! Llwyddodd hefyd i ennill sawl gwobr, gan gynnwys gwobr BAFTA yn 1994, am y Ddrama Sgrin orau.

Mae’r ffilm yn olrhain dyn tywydd o’r enw Phil Connors, sy’n mynd gyda’i gydweithwyr, Rita a Larry (Andie MacDowell a Chris Elliot), i Punxsutawney, Pennsylvania er mwyn gohebu ar yr ŵyl ‘Groundhog Day’ flynyddol. Unwaith yno, fe gánt eu cau mewn gan luwchfeydd eira a’u gorfodi i aros y noson mewn gwesty. Y bore wedyn, mae Phil yn deffro i sylweddoli ei bod hi’n ‘Groundhog Day’ unwaith eto. Mae’n rhaid iddo ddeall bod angen iddo ail-fyw yr un diwrnod drosodd a throsodd nes ei fod yn dysgu’r gwerthoedd o ofalu am eraill.

Mae hanner cyntaf y ffilm yn portreadu Phil fel person trahaus iawn sydd yn hunanol ac yn gadael llawer o bobl i lawr. Er enghraifft, mae’n ystyried ei hun fel ‘talent’ ac yn gwneud hwyl ar ben y ffaith bod Punxutawney yn dathlu y fath ddiwrnod â ‘Groundhog Day’. Yn ogystal, fe sylwais fod y llinellau canlynol o’r ffilm yn dangos yn effeithiol iawn atgasedd Phil tuag at weinyddes y gwesty, sef:

Phil: I don’t suppose there’s any possibility of getting an espresso or a cappuccino this morning, is there?

Mrs Lancaster (y weinyddes): Oh, I…I really don’t know…

Phil(o dan ei wynt): How to spell espresso?

Fan hyn, mae Phil yn ei dynwared gan awgrymu bod y weinyddes damed yn dwp.

Ar ôl amser, mae Phil yn dechrau arbrofi gyda gwahanol fathau o ymddygiad, mewn ymdrech i ddod nôl i’w fywyd arferol a chael gobaith o yfory. O gael ei ladd mewn sawl ffordd, i yrru dros reilffordd gyda dau ddyn meddw a chael ei arrestio gan yr heddlu, does dim yn newid ei arfer o godi yn yr un gwesty ac ar yr un diwrnod am gyfnod sy’n ymddangos i bara am byth iddo. Ar ol y dyfyniadau canlynol,

Phil: Well, what if there were no tomorrow?

Ffrind meddw: No tomorrow, that would mean there would be no consequences, there would be no hangovers, we could do whatever we wanted.

mae Phil yn dirnad bod modd iddo wneud beth bynnag a fynnai gan fod dim yfory.

Mae’n rhaid i mi gyfaddef mai fy hoff olygfa fyddai golygfa ‘I’m a God’. Dyma’r olygfa lle mae Phil yn ceisio argyhoeddi ei sefyllfa i Rita. Mae’n gwneud hyn trwy gymharu ei hun â duw:

“I’m a god…I’m not the God. I’m a god, I don’t think.”

Yna, mae’n parhau ei gymhariaeth rhwng Duw a’i sefyllfa bresennol. Y darn gorau o’r sefyllfa yw pan soniodd Phil am yr hyn a wyddai am Rita. Roedd y gerddoriaeth yn creu teimlad rhamantus rhwng Rita a Phil ac roedd ei eiriau yn effeithiol, emosiynol ac yn pwysleisio awgrym o dristwch yn ei lais.

Wedi cyfnod o ailfyw nifer o ddiwrnodau, mae Phil yn dod i’r arfer o drefn y diwrnod, gyda’r gallu i ragweld beth sy’n digwydd nesaf. Er enghraifft, pan mae platiau yn y caffi yn disgyn, pan mae plentyn yn disgyn o goeden a phan mae swn cyfarth yn y parc, mae Phil yn llwyddo i gofio. Erbyn diwedd y stori, mae’n manteisio ar y gallu hwn er mwyn achub bywydau a helpu y rhai mewn angen.

Buaswn i gant y cant yn argymell y ffilm yma i chi oherwydd datblygodd Phil fel person, ac fe roedd hyn yn dadlennu neges bwysig iawn i’r gwylwyr sef: waeth beth yw eich sefyllfa, byddwch yn bositif, daliwch ati i ddysgu a gwnewch y gorau ohonni heb fod yn gas tuag at eraill. Yn fy marn i, mae’r ffilm wedi ei anelu at bobl sydd yn hoffi pynciau swreal, annarferol ac ysbrydoledig. Mae’n ffilm gomedi, ffantasi a rhamant sydd bellach yn glasur gwych. Gellir dweud bod y ffilm yn berthnasol iawn i’r cyfnod clo a brofwyd gan bob un ohonom dros y flwyddyn diwethaf, gan fod nifer ohonom wedi deffro pob diwrnod i ddilyn yr un drefn undonog, dro ar ol tro. Credaf fod y ffilm yn ein dysgu na allwn ragweld y dyfodol ac i ddyfalbarhau.

Tyler Hazeldine

3. Tyler Hazeldine, Ysgol Gyfun David Hughes, Ynys Môn

Y Papur Cymraeg Porthaethwy – Hydref 24ain 2021

Ffair Borth

Ddoe roedd Ffair Borth wedi dod i tref. Y diwrnod mae pawb ym Mhorthaethwy yn edrych ymlaen ato ac blwyddyn yma doedd o ddim yn bwrw glaw! Roedd y strydoedd dan do hefo stondinau lliwgar, o teganau plant bach i yr ffasiwn diweddaraf. Waw…mae ogla o’r bwyd yn hyfryd.

Mae’r candi floss yn teimlo fel cymylau yn toddi ar fy nhafod..Yr ogla o’r cwn poeth hefo nionyn yn gwneud i mi fod eisiau rhedeg i nol un.

Wrth i’r haul fachlud roedd y ffair yn dod yn fyw, roedd y goleudu wedi dod ymlaen, mae nhw gellir ei weld o Bangor…a sgrechian gan y plant yn cael hwyl. Pobl yn chwerthin ac yn teimlo’n hapus yn Ffair Borth. Mae’r cerddoriaeth yn uchel fel roeddwn i mewn cyngerdd ac roedd y reids yn symud i’r curiad. Mae’r ‘waltzers’ yn cyflym fel bwled. Mae teuluoedd yn ciwio i fynd ar yr ‘olwyn fawr’.

Roeddwn i yn siarad hefo rywun sydd yn hoffi yr ffair llawer dyma ganddo i ei ddweud.

Mared Jones “Rydw i yn caru Ffair Borth da ni yn dod lawr pob blwyddyn”.

Roeddwn i di cael amser hwyl yn y ffair ond cyn oeddwn i di fynd adref roeddwn i di cael gem o ‘hook a duck’ ac roeddwn i di enill pysgodun ac rydw i’n fynd i enwi o Jeffri.