Mae cwmnïau llety gwyliau yng Nghymru yn rhagweld haf anhygoel o brysur, gydag un yn dweud ei fod wedi’i “syfrdanu” gan y galw.

Dywedodd Greg Stevenson o gwmni Under the Thatch wrth y BBC bod rhai safleoedd yn disgwyl gwneud gwerth blwyddyn arferol o elw o fewn ychydig fisoedd.

Mae cwmni Bythynnod Gwyliau Gogledd Cymru hefyd yn dweud nad oes rhai o’u bythynnod ar gael hyd nes mis Hydref.

Ychwanegodd cadeirydd Cwmni Twristiaeth Canolbarth Cymru ei fod yn rhagweld haf prysurach ym Mhowys a rhannau llai adnabyddus o Geredigion hefyd oherwydd diffyg argaeledd mewn mannau poblogaidd eraill.

Mae Bythynnod Gwyliau Gogledd Cymru wedi gweld cynnydd pellach mewn galw dros y mis diwethaf gan olygu bod Gorffennaf ac Awst bron yn llawn.

‘Prysurach’

Dywedodd y cyfarwyddwr Barbara Griffiths ei bod wedi bod yn llawer distawach ym Mawrth ac Ebrill tra mai pobl o Gymru yn unig oedd yn cael teithio i lety gwyliau, ond ers hynny bod y galw wedi dychwelyd i lefel arferol.

“Ond wrth edrych ymlaen mae hi’n sylweddol brysurach na lefelau arferol,” meddai.

“Yn y blynyddoedd diwethaf mae pobl wedi bod yn archebu eu gwyliau haf llawer hwyrach, ond eleni mae pethau wedi llenwi yn gynt o lawer.”

Argaeledd

Ychwanegodd bod nifer o safleoedd yn llawn nes y gaeaf, ond bod gan y mwyafrif o leiaf ychydig o argaeledd yn yr hydref.

Dywedodd cadeirydd Cwmni Twristiaeth Canolbarth Cymru, Rowland Rees-Evans ei fod yn credu bod pobl yn “ysu” am adael eu cartrefi a mynd ar wyliau.

“Mae hi wedi bod yn 14 mis doedd neb yn ei ddisgwyl, ond rydyn ni’n dechrau dychwelyd i ryw fath o normalrwydd,” meddai.

Mae Mr Rees-Evans hefyd yn gyfarwyddwr ar Barc Penrhos ger Aberystwyth, a dywedodd fod y galw yn helpu pobl i ddod o hyd i ardaloedd newydd.

“Os does ’na ddim lle yn Sir Benfro neu ogledd Cymru, maen nhw’n mynd i edrych ar fynd i rywle arall,” meddai.

“Mae canolbarth Cymru yn prysur ddenu mwy o gydnabyddiaeth.”