1. Kayley Sydenham, Ysgol Gyfun Gwynllyw, Gwent

Aur a Phorffor

Gad inni ishte yn dawel

dan oleuadau lliw gwîn,

wrth i aur a phorffor ledu’r gorwel.

Gan adael i’r dydd,

ddiosg ei hun oddi arnom fesul awr.

Gad i’r diwrnod ddweud ei ddweud-

Am fod popeth yn ormod,

Am fod rhywbeth yn bod.

 

Mynnu dweud,

ond fedrwn i ddim

dod o hyd i’m geiriau-

er ein bod ni’n dau

yn siarad yr un iaith.

Llonyddwch distaw, ond am

barêd o sibrydion

y goedwig ddi-ddail.

 

Ac eto,

llaw wan

yn estyn allan-

yn waed i gyd,

i rwygo’r tawelwch

yn chwilio am gysur.

Am fod popeth yn ormod,

Am fod rhywbeth yn bod.

 

Ti di’r un sy’n gallu aros

tra bo’r holl fyd yn ffoi.

Yr un sy’n gallu derbyn

fy nghrefft o greu.

Yr un sy’n gweld y golau

heb orfod angen chwilio.

Yr un sy’n gweld y seren ynof

drwy’r noson dywyll, ddieithr.

 

Un dda wyt ti am wrando,

Ond, ti’m yn deall go iawn.

 

Coch yw fy lliw i,

am nawr.

Lliw llanw’r gwaed

lliw’r creithiau cignoeth

a’r briwiau-

Heb olwg gwellhad.

Lliw’r peth erchyll hwnnw-

Bywyd.

 

Ni wyddost ti am fy ymdrechion

i ffrwyno’r fflamau ffyrnig.

Yr eisiau i greu gofod diogel-

i swatio mewn lle cynnes

yng nghanol y corwynt caethiwus yma.

Ceiso cadw gafael a wnaf i;

ar y darnau o reswm

sy’n dal i fodoli.

 

Mae aur a phoffor yn lledu’r wybren-

A wela i’r un gorwel â thi?

***

2. Ciarán Eynon, Aelod Unigol, Conwy

Dan Awyr Byd

Lle mae hi? Weli di hi?

Y bêl yn gorwedd yn y gwellt?

Ei gwyrddi’n gre’, yn grin yn y gro

Y bêl y bu Nel yn ei anwylo?

Dim ond milwr, mam a milgi,

Heb yngan gair ill tri.

Rhoi i’r Dwyrain, daflegr

A’i dafliad fel pe’n ddagr.

At y fan hon

y dychwelem o hyd

ar bnawniau segur y Sul.

Yn ynfydrwydd ein gorwelion

ac yn achlod ein helbul,

breuddwyd ffŵl

oedd ceisio

cau pen y mwdwl.

Ond fel tae o nunlle,

Darfu tawelwch y lle.

Daeth mam yn ôl â’i phledio:

Argraffu’r holl orffwyllo.

“Ne’i di’m gneud hyn eto i mi, na nei?”

Ym mherfeddion llygaid Nel,

ymroliai holl sillafau’i hing

yn un gybolfa

o siom.

Yn gïaidd ym mhlyg ei phen

ac mor ddi-dostur ofalgar.

Na, nid oedd yma’r hen chwarae mig:

Dim ond dirmyg di-gyfarth.

Cyn cyrchu am Dir Neb

geiria’ mam sy’n fom fin nos –

yn danchwa ar ddrysau’r drin.

Ac yn anochel annisgwyl,

daeth y dagrau

i ail-ddyfrio tiroedd sych

Epynt ein ffarwelio.

“Wt ti’n teimlo’r boen?”

Hi’n oedolyn yn yr ystafell.

Hi’n codi ei hawdurdod hell.

Cystwyo wna’r bwledi

a’u cyfeiriad: fy nghalon i.

Ond gwaeth, gwaeth o dipyn

gwybod

nad y gelyn pennaf un

mo’r tiroedd ansad

ond y tafliad…

…y tafliad hwnnw aeth â hi

i gilfachau fforest o ddryswch.

Ac yn y tiroedd anghynefin,

Mor oer yw’r marw ei hun.

Collodd ei phêl yn y fan,

Ac yn awr, wele’r gyflafan.

* * *

Garw yw ymgeledd coflaid,

A marw draw acw fu’n rhaid.

Mwy garw yw amlhau geiriau – am y rhai

A fu ar yr un hen siwrnai

Ddi-droi-nôl.

Y rhai fu’n ffrwydrad ym mynwes cenedl.

Ni all huodledd awdlau

Na mieri’r mawrhau

Droi’r baril na’r picellau’n

Atgof chwil i’n dyddiau.

Ac ni all holl gyfarth y lle

Lenwi bwlch y gwagle.

Lle mae o? Weli di o?

Y bachgen yn gorwedd yn y gwellt?

Ei wyrddni’n gre’, yn gelain yn y gro

Hwn y bu Nel yn ei anwylo?

***

3. Tegwen Bruce-Deans, Aelwyd JMJ, Eryri

Trên Grefi

Ond ar y trên y bore hwnnw,

â sidan haul Sadwrn

yn siôl am fy ’sgwyddau,

roedd cri;

cwyn cyw bach yn erfyn o’i nyth

am dalp o fara gan ei fam.

Dw’ innau’n yfed gwin yr awyr

tra hithau,

yn ei hanobaith,

fel glöyn byw caeth

yn ehedeg draw ac acw –

ac roedd ymbil ei llygaid yn oer

fel ceiniog arian.

 

Dwi’n tynnu’r siôl yn dynn amdanaf

a’m bag agosach i ’mrest,

gan droi i’r ffenest i wylio

yn nhes ganol Mai

aur y bore’n arllwys

glesni i’r cysgodion.

 

Ond roedd oerni’r cysgod

yn mynnu glynu

fel stamp cerdyn post i’r awel.

 

A minnau’n rhyfeddu

eiliadau ar eu hôl:

paham ’mod i’n ofn

myn cyw a’i fam

i fyw?

 

Costiera Amalfitana, 2018

 

Kayley Sydenham o Gasnewydd yw Prifardd Eisteddfod T 2021

Er i 40 gystadlu, cerdd Kayley oedd yn cynnig “y cyfanwaith mwyaf gorffenedig yn y gystadleuaeth eleni” meddai Mererid Hopwood.