Mae buddugoliaeth fawr o fewn cyrraedd Morgannwg ar ddiwedd ail ddiwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerhirfryn yng Nghaerdydd.

Maen nhw’n cwrso 188 i ennill ac mae angen 51 yn rhagor arnyn nhw wrth ddechrau’r trydydd diwrnod ar 137 am dair.

Byddai’r fuddugoliaeth yn un arwyddocaol gan mai’r ymwelwyr sydd ar frig y tabl, ac fe fyddai’n hollbwysig i obeithion Morgannwg o gyrraedd rowndiau ola’r gystadleuaeth.

Dechrau cadarn i’r batwyr cyn colli wicedi

Ar ôl i 19 o wicedi gwympo ar y diwrnod cyntaf, dechreuodd Morgannwg yr ail ddiwrnod ar 150 am naw, ond fe ddaeth eu batiad cyntaf i ben oddi ar ail belen y dydd pan gafodd Michael Hogan ei redeg allan gan Tom Bailey.

Roedd gan Swydd Gaerhirfryn flaenoriaeth o 23 ar ddechrau eu hail fatiad, felly, ac fe ddechreuon nhw’n bwyllog gan gyrraedd 36 cyn i James Weighell daro coes Keaton Jennings o flaen y wiced am 12.

Roedd Luke Wells wedi dechrau edrych yn gyfforddus ar 26 ar ôl taro dwy ergyd i’r ffin, ond fe gafodd ei atal cyn agor y llifddorau wrth i Dan Douthwaite ei fowlio wrth i’r bêl wyro’n ôl ato, a’r ymwelwyr yn 72 am ddwy.

Roedden nhw’n 88 am dair pan darodd Michael Neser goes Alex Davies o flaen y wiced am 47 oddi ar belen ola’r bore, gan adael y cae gyda blaenoriaeth o 111 yn eu hail fatiad gyda saith wiced yn weddill.

Un wiced ar ôl y llall

Parhaodd momentwm Morgannwg ar ddechrau’r prynhawn, wrth i’r ymwelwyr golli tair wiced o fewn ugain munud agoriadol y sesiwn.

Cafodd Josh Bohannon ei fowlio gan Michael Neser am saith, cyn i Neser ddal Liam Livingstone yn safle’r trydydd dyn oddi ar fowlio Dan Douthwaite i’w gadael nhw’n 113 am bump.

Ond roedd gwaeth i ddod wrth i Luke Wood gael ei redeg allan yn gelfydd gan Marnus Labuschagne heb fod wedi wynebu’r un belen, cyn i Neser daro coes y capten Dane Vilas o flaen y wiced am 12 i’w gadael nhw’n 124 am saith.

Roedden nhw’n 124 am wyth pan gafodd Tom Bailey ei ddal gan Chris Cooke oddi ar fowlio Neser heb sgorio ac fe wnaeth Danny Lamb a Saqib Mahmood rwystro Morgannwg am gyfnod wrth gyrraedd 153 cyn colli’u nawfed wiced pan gafodd Lamb ei ddal gan Chris Cooke ar yr ail gynnig oddi ar fowlio Lloyd am  19.

Daeth y batiad i ben ar 164 pan gafodd Saqib Mahmood ei fowlio gan Lloyd am 12, a Swydd Gaerhirfryn ar y blaen o 187, gan osod nod o 188 i Forgannwg ennill y gêm.

Morgannwg yn cwrso

Ar ôl holl gyffro’r diwrnod a hanner cyntaf o ran y wicedi’n cwympo, batiodd David Lloyd a Joe Cooke, agorwryr Morgannwg, yn ofalus ar ôl te wrth adeiladu partneriaeth sefydlog ar frig y rhestr.

Aeth eu partneriaeth y tu hwnt i’r hanner cant o fewn ugain pelawd a doedd y bowlwyr ddim fel pe baen nhw’n trafferthu’r batwyr am gyfnod helaeth, ond cafodd y bartneriaeth ei thorri ar 72 pan gafodd Cooke ei ddal yn y slip gan Luke Wells oddi ar fowlio Matt Parkinson am 38.

Collodd Morgannwg eu hail wiced pan wnaeth David Lloyd yrru’r bêl at Jennings ar ochr y goes oddi ar fowlio Bailey am 41, a’r sgôr yn 95, a’u trydedd ar 102 pan darodd Mahmood goes Billy Root o flaen y wiced.

Dydy’r Awstraliad Marnus Labuschagne ddim wedi tanio eto ers iddo fe ddychwelyd i Gymru, ac eithrio ei 44 yn y batiad cyntaf, ond mae e wrth y llain ar 32 a’i bartner Kiran Carlson heb fod allan ar 14.

Sgorfwrdd

Mae modd gwylio’r gêm yn fyw yma

Morgannwg yn gwastraffu dechrau da o flaen torf yng Nghaerdydd

Fe wnaethon nhw fowlio Swydd Gaerhirfryn allan am 173, cyn gorffen y diwrnod cyntaf yng Nghaerdydd ar 150 am naw
Gerddi Sophia

Hyd at 1,000 o gefnogwyr criced Morgannwg yn cael bod yng Nghaerdydd heddiw (dydd Iau, Mehefin 3)

Diwrnod cyntaf gêm Morgannwg yn erbyn Swydd Gaerhirfryn heddiw (dydd Iau, Mehefin 3) yn un o ddigwyddiadau peilot Llywodraeth Cymru