Mae tîm criced Morgannwg wedi gwastraffu cyfle da i ennill mantais gynnar ar ddiwrnod cynta’r gêm Bencampwriaeth gyntaf o flaen torf yng Nghaerdydd ers 623 o ddiwrnodau.

Ar ôl bowlio Swydd Gaerhirfryn allan am 173 ar lain sy’n ffafrio’r bowlwyr, fe wnaethon nhw lithro i 150 am naw erbyn diwedd y dydd.

Cyn-fatiwr Lloegr, Keaton Jennings oedd y batiwr cyntaf allan i’r ymwelwyr, wrth i Michael Hogan ei fowlio i gipio wiced dosbarth cyntaf rhif 399 ei yrfa gyda Morgannwg i adael y gwrthwynebwyr yn bump am un.

Cipiodd James Weighell ei wiced gyntaf yng Nghaerdydd wrth daro coes Luke Wells o flaen y wiced am ddeg, a’r Saeson yn 33 am ddwy, ac fe gipiodd e ail wiced pan gafodd Alex Davies ei ddal gan Andrew Salter yn sgwâr am 21, a’r sgôr yn 37 am dair.

Roedden nhw’n 66 am bedair pan gafodd Josh Bohannon ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Michael Neser am 14 toc cyn cinio.

Sesiwn y prynhawn

Cafodd capten yr ymwelwyr, Dane Vilas ei daro ar ei goes o flaen y wiced gan Michael Hogan yn fuan ar ôl cinio, wrth i’r bowliwr 40 oed gipio’i 400fed wiced dosbarth cyntaf i Forgannwg i adael y Saeson yn 86 am bump.

Roedden nhw’n 86 am chwech yn y belawd ganlynol wrth i David Lloyd gipio wiced Liam Livingstone, wrth i hwnnw roi daliad i Chris Cooke.

Cipiodd Neser a Dan Douthwaite ddwy wiced yr un wedyn i gau pen y mwdwl ar y batiad, gyda’r naill yn taro coesau Luke Wood a Danny Lamb o flaen y wiced i’w gadael nhw’n 143 am wyth, cyn i’r llall ddarganfod ymyl bat Saqib Mahmood i roi daliad i’r wicedwr Cooke a Tom Bailey yn cael ei fowlio am 31 i orffen yn brif sgoriwr.

Roedd yr ymwelwyr i gyd allan am 173, felly, gyda Neser yn gorffen gyda thair wiced am 46, a Hogan, Weighell a Douthwaite yn cipio dwy yr un, a’r llall i Lloyd.

Batiad cyntaf Morgannwg

Dechreuodd Morgannwg eu batiad cyntaf yn weddol gadarn cyn i Lloyd gael ei fowlio gan Mahmood am 21, a’r sgôr yn 38 am un.

Ar ôl cael dechrau gwael i’r tymor, roedd Joe Cooke yn edrych yn gyfforddus ac yn gadarn wrth y llain wrth sgorio 14 cyn cael ei fowlio gan Bailey, a gipiodd wiced Billy Root oddi ar y belen ganlynol wrth daro’i goes o flaen y wiced heb sgorio, a’r sgôr yn 74 am dair.

Roedd Morgannwg yn 92 am bedair pan darodd Bailey goes Kiran Carlson o flaen y wiced, ac yn 97 am bump wrth i Bohannon ddal Chris Cooke oddi ar fowlio Lamb heb sgorio.

Ar ôl ei fatiad addawol cyntaf ers dychwelyd i Forgannwg, tarodd Lamb goes Marnus Labuschagne o flaen y wiced am 44 i adael Morgannwg yn 102 am chwech.

Roedd gwaeth eto i ddod, wrth i Douthwaite gael ei ddal gan Wood yn sgwâr ar ochr y goes oddi ar fowlio Mahmood am 18, a Morgannwg yn 127 am saith.

Cwympodd y ddwy wiced olaf yn hwyr yn y dydd, wrth i Weighell gael ei ddal i lawr ochr y goes gan y wicedwr Vilas oddi ar fowlio Wood am 113 ac fe gafodd Andrew Salter ei daro ar ei goes o flaen y wiced gan Mahmood heb sgorio, a’r sgôr yn 145 am naw.

Helynt cyn-chwaraewr

Yn y cyfamser, daeth cadarnhad na fydd Ismail Dawood, cyn-wicedwr Morgannwg a ddaeth yn ddyfarnwr ar ôl ymddeol, yn dwyn achos yn erbyn Bwrdd Criced Cymru a Lloegr am hiliaeth wedi’r cyfan.

Roedd disgwyl i Dawood, sy’n hanu o Swydd Efrog ac sydd o dras Asiaidd, a’i gyd-ddyfarnwr John Holder, a gafodd ei eni yn y Caribî, honni bod y bwrdd wedi gwahaniaethu yn eu herbyn nhw ar sail hil.

Roedd y ddau wedi bod yn cyhuddo’r Bwrdd o “hiliaeth sefydliadol”, ond fe gymeron nhw ran mewn trafodaethau cymodi yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd y ddau wahoddiad i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar ddyfarnu, ond mae Dawood wedi gwrthod.

Does yna’r un dyfarnwr o gefndir ethnig lleiafrifol wedi’i benodi i’r panel dosbarth cyntaf ers 29 o flynyddoedd.

Ond yn sgil yr helynt diweddaraf, mae Dean Headley a Devon Malcolm, dau sydd â’u gwreiddiau yn y Caribî, wedi’u penodi’n swyddogion dyfarnu oddi ar y cae.

Yn ogystal â Dawood a Holder, mae nifer o chwraewyr eraill o gefndiroedd ethnig wedi gwneud honiadau ynghylch hiliaeth yn y byd criced.

Mae cyfreithwyr y ddau gyn-ddyfarnwr yn honni bod Bwrdd Criced Cymru a Lloegr wedi methu â mynd i’r afael â hiliaeth – honiadau sydd wedi cael eu tanlinellu dros y ddau ddiwrnod diwethaf wrth i negeseuon hiliol a rhywiaethol gan Ollie Robinson ddod i’r fei yn ystod ei gêm gyntaf dros Loegr.

Gerddi Sophia

Hyd at 1,000 o gefnogwyr criced Morgannwg yn cael bod yng Nghaerdydd heddiw (dydd Iau, Mehefin 3)

Diwrnod cyntaf gêm Morgannwg yn erbyn Swydd Gaerhirfryn heddiw (dydd Iau, Mehefin 3) yn un o ddigwyddiadau peilot Llywodraeth Cymru