Mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) yn ymchwilio i negeseuon hiliol, rhywiaethol a sarhaus yn erbyn pobol ag anableddau gan gricedwr newydd tîm Lloegr ar y diwrnod pan fu’r corff llywodraethu yn datgan fod criced yn “gêm i bawb”.

Mae Ollie Robinson, sy’n chwarae i Sussex, wedi ymddiheuro ar ôl i’r negeseuon hanesyddol gael eu cyhoeddi eto ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae Lloegr yn herio Seland Newydd yn Lord’s yn Llundain, ac fe ddaeth y chwaraewyr i’r cae yn gwisgo crysau yn datgan eu cefnogaeth i amrywiaeth o wahanol fathau ar ddiwrnod ‘Eiliad o Undod’ yn erbyn hiliaeth, anoddefgarwch crefyddol, agweddau rhywiaethol, trawsffobia, homoffobia a gwahaniaethu ar sail anabledd neu oedran.

Yn ôl Robinson, sydd bellach yn 27 oed, mae’r negeseuon a gafodd eu postio yn 2012 a 2013 yn destun “embaras” a “chywilydd” iddo, ond mae’n dweud nad ydyn nhw’n adlewyrchu pwy yw e erbyn hyn ac nad yw e’n “hiliol nac yn rhywiaethol”.

Mae’n dweud bod y negeseuon yn “ddi-feddwl ac anghyfrifol” a’i fod e “wedi dysgu gwers”.

Cafodd ei ddiswyddo gan Swydd Efrog flwyddyn ar ôl ymuno â’r sir yn 2013, a hynny am “gyfres o weithredoedd amhroffesiynol” ac mae’n dweud nad oedd e’n gwybod fod y negeseuon yn dal i’w gweld ond ei fod e “wedi aeddfedu” ers hynny ac y bydd e’n “parhau i addysgu” ei hun.

Cefnogaeth

Mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr yn dweud bod ymchwiliad ar y gweill, ac mae’r prif weithredwr Tom Harrison wedi mynegi ei “siom”.

“Rydyn ni’n well na hyn,” meddai wedyn wrth ddweud bod y negeseuon yn creu delwedd o griced ac o gricedwyr “sy’n gwbl annerbyniol”.

Er bod Sussex wedi beirniadu’r negeseuon ac yn dweud eu bod nhw’n “siomedig tu hwnt”, maen nhw’n dweud eu bod nhw’n barod i gefnogi’r chwaraewr gan ei fod e “wedi aeddfedu’n fawr iawn” ers hynny a bod yr “Ollie Robinson anfonodd y negeseuon hyn yn wahanol iawn i’r Ollie Robinson rydyn ni’n ei adnabod”.

Mae Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol hefyd yn dweud nad ydyn nhw’n “goddef unrhyw ymddygiad sy’n gwahaniaethu”, a bod y chwaraewr wedi ymwneud â gweithdai ar ymddygiad a safbwyntiau sy’n gwahaniaethu a’u bod nhw’n “parhau i’w gefnogi”.

Yr ‘Ollie Robinson arall’

Yn y cyfamser, mae Ollie Robinson arall sy’n gricedwr proffesiynol wedi ymbellhau oddi wrth y digwyddiad.

Mae hwnnw’n chwarae i Gaint ac yn sillafu ei enw yn yr un ffordd, ond mae’n debyg ei fod e wedi bod yn derbyn negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn y digwyddiad.

Mewn datganiad, mae’n pwysleisio bod y digwyddiad yn ymwneud ag Ollie Robinson arall.