Fe fydd hyd at 1,000 o gefnogwyr yn cael bod yng Ngerddi Sophia heddiw (dydd Iau, Mehefin 3) ar gyfer diwrnod cyntaf gêm griced Morgannwg yn erbyn Swydd Gaerhirfryn yn y Bencampwriaeth.

Dyma’r tro cyntaf ers dechrau’r pandemig i gefnogwyr gael bod yn y stadiwm, a hynny fel rhan o ddigwyddiadau peilot Llywodraeth Cymru.

Gan na fydd pawb sydd yno o reidrwydd wedi cael dau ddos o frechlyn Covid-19, mae gofyn bod pawb sy’n bresennol wedi cael prawf Covid-19 cyn mynd.

Bydd cyfyngiadau llym ar waith yn y stadiwm.

Yn wahanol i Loegr, lle mae cefnogwyr wedi cael mynd i bob diwrnod o gêm pedwar diwrnod, dim ond ar y diwrnod cyntaf y caiff cefnogwyr yng Nghymru fynd i’r gêm.

Un newid yng ngharfan Morgannwg

Mae un newid yng ngharfan Morgannwg, gyda’r Cymro Lukas Carey yn dychwelyd ar ôl gwella o anaf i’w ffêr.

Mae e’n dod i mewn i’r garfan yn lle’r Iseldirwr Timm van der Gugten sydd i ffwrdd yn chwarae dros ei wlad.

Mae Morgannwg yn bedwerydd yn y tabl ac mae ganddyn nhw 80 o bwyntiau.

Gemau’r gorffennol

Prin yw’r gemau rhwng Morgannwg a Swydd Gaerhirfryn yng Nghaerdydd, yn enwedig dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae’r ymwelwyr ar frig y tabl ar ôl dechrau cryf i’r tymor, ac maen nhw’n dod i Gaerdydd am y seithfed tro erioed ar gyfer gêm Bencampwriaeth.

Dydyn nhw ddim wedi chwarae yn y brifddinas ers 1996, pan darodd Matthew Maynard, a gafodd ei eni yn y sir, 214 wrth i Forgannwg sgorio 505, gan ennill o 48 o rediadau wrth i’r Cymro Cymraeg Robert Croft gipio pum wiced a Dean Cosker bedair wiced ar y diwrnod olaf.

Roedden nhw hefyd yn fuddugol, a hynny o bedair wiced, yn 1968 wrth i Gymro Cymraeg arall, Alan Jones, daro 95 wrth i Forgannwg gwrso 178 i ennill mewn 39 o belawdau.

Dim ond unwaith mae’r ymwelwyr wedi ennill gêm pedwar diwrnod yng Nghaerdydd, a hynny yn 1981 o 66 rhediad ar ôl i Clive Lloyd, un o fawrion India’r Gorllewin, a Bernard Reidy daro hanner canred yr un, gyda Peter Lee yn cipio chwe wiced am 44 – ar ôl i Barry Lloyd gipio wyth wiced am 70 i Forgannwg i gofnodi ei ffigurau gorau erioed.

Gorffennodd y gemau yn 1967, 1970 a 1984 yn gyfartal, ond fe fu’r ymwelwyr yn fuddugol yn eu tair gêm ddiwethaf yng Nghymru, a’r rheiny i gyd yn Llandrillo yn Rhos – yn 2013, 2015 a 2019.

Dydy Morgannwg ddim wedi curo Swydd Gaerhirfryn ers 1997, pan enillon nhw’r Bencampwriaeth am y trydydd tro yn eu hanes, wrth i Steve James daro 152 ac fe gipiodd Waqar Younis, un o sêr Pacistan, saith wiced am 25, gan gynnwys dwy wiced mewn dwy belen ddwywaith wrth i’r Saeson gael eu bowlio allan am 51 i roi buddugoliaeth o 221 o rediadau i Forgannwg.

Cerrig milltir

Mae nifer o chwaraewyr Morgannwg yn agos at gerrig milltir personol.

Mae angen dwy wiced ar Michael Hogan ar gyfer 400 o wicedi dosbarth cyntaf dros Forgannwg, ac yntau newydd ddathlu ei ben-blwydd yn 40 oed.

Mae’r capten 49 rhediad yn brin o 5,000 o rediadau dosbarth cyntaf i’r sir.

Mae angen 15 rhediad ar Kiran Carlson, y batiwr ifanc o Gaerdydd, i guro’i gyfanswm gorau erioed mewn tymor o 567 o rediadau dosbarth cyntaf.

Carfan Morgannwg: C Cooke (capten), L Carey, K Carlson, J Cooke, T Cullen, D Douthwaite, M Hogan, M Labuschagne, D Lloyd, M Neser, B Root, A Salter, J Weighell

Carfan Swydd Gaerhirfryn: D Vilas (capten), T Bailey, J Blatherwick, J Bohannon, S Croft, A Davies, K Jennings, D Lamb, L Livingstone, Saqib Mahmood, M Parkinson, L Wells, L Wood

Sgorfwrdd

Mae modd gwylio’r gêm yma