Mae Clwb Pêl-droed Aberystwyth wedi penodi Antonio Corbisiero yn rheolwr newydd.

Mae cyn-chwaraewr Abertawe, Casnewydd a Llanelli yn camu i fyny o’i rôl yn is-hyfforddwr i gymryd lle Gavin Allen.

Gadawodd Gavin Allen y swydd ym mis Rhagfyr gydag Aberystwyth yn sownd ar waelod Uwchgynghrair Cymru.

Ond daeth yn ôl i’r swydd, cyn ymddiswyddo drachefn ym mis Mai.

Gorffennodd Aberystwyth yn ddegfed yn nhymor Uwch Gynghrair Cymru 2020-21, gan osgoi’r gwymp o un pwynt yn unig.

Ymunodd Antonio Corbisiero ag Aberystwyth ym mis Ionawr 2013 ar ôl ennill Uwch Gynghrair Cymru, Cwpan Cymru, a Chwpan y Gynghrair yn ystod ei saith mlynedd gyda Llanelli.

Chwaraeodd hefyd yng Nghynghrair y Pencampwyr, Cwpan UEFA, a Chynghrair Ewropa gyda’r clwb, gan sgorio 15 gôl.

“Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i reoli clwb fy nhref enedigol,” meddai Antonio Corbisiero.

“Rwy’n hynod gyffrous i fynd a gwneud popeth o fewn fy ngallu gyda fy nhîm hyfforddi i gael y gorau o bob unigolyn.

“Rwyf i a’r tîm hyfforddi wedi bod yn gweithio’n eithriadol o galed i roi popeth yn ei le yn barod ar gyfer y tymor sydd i ddod.”

“Cyflawni pethau mwy a gwell”

“Mae penodiad Corbs yn cadw ein strwythur rheoli lleol ac rydym yn siŵr y bydd y chwaraewyr talentog ifanc yn ein carfan yn mynd ymlaen i gyflawni pethau mwy a gwell gyda’r clwb yn y dyfodol, gyda chefnogaeth ac arweiniad Corbs a’i dîm rheoli,” meddai Donald Kane, cadeirydd y clwb.

“Hoffwn ychwanegu bod Bwrdd y Cyfarwyddwyr wedi cefnogi penodiad Antonio yn unfrydol a byddwn yn gweithio’n galed dros yr haf i sicrhau bod ganddo’r holl gymorth sydd ei angen arno i baratoi ar gyfer ymgyrch 2021/22.”

Gavin Allen yn camu o’r neilltu fel rheolwr Aberystwyth

“Mae Gavin wedi delio â’r sefyllfa gydag urddas ac mae’r bwrdd yn unfrydol falch o gadarnhau y bydd yn aros yn ei rôl fel Pennaeth yr Academi”

Cyfweliad gyda Gavin Allen

Gohebydd Golwg360

Rheolwr Clwb Pêl-droed Aberystwyth yn trafod dechrau’r tymor newydd