Mae’r para-athletwr 22 oed o Gaerffili, John Bridge wedi ennill medal arian ym Mhencampwriaethau Ewrop yr IPC yng Ngwlad Pwyl.

Fe wnaeth e osod record bersonol wrth orffen y ras 400m yn nosbarth T47 mewn 50.75 eiliad.

Ivan Cvetkovic o Serbia enillodd y ras mewn 50.63 eiliad, gyda’r Eidalwr Riccardo Bagaini yn cipio’r fedal efydd mewn 50.92 eiliad.