Mae Geraint Thomas wedi ennill pumed cymal ras y Critérium du Dauphiné.

Fe wnaeth e ymosod yn hwyr a llwyddo i ddal ei afael ar ei flaenoriaeth wrth i’r peloton arafu wrth fynd i mewn i gornel ryw 1km o’r llinell derfyn yn Saint-Vallier.

Bu bron iddo fe gael ei ddal gan y pac, serch hynny, gyda Sonny Colbrelli, enillydd y trydydd cymal, yn eu harwain ac fe fu bron i’r Eidalwr ddal Thomas.

Lukas Postlberger yw arweinydd y gystadleuaeth.

Mae’r fuddugoliaeth yn y pumed cymal yn golygu bod Geraint Thomas yn cael bonws o ddeg eiliad ar y cloc i’w symud i fyny i’r chweched safle yn y dosbarthiad cyffredinol, 14 eiliad y tu ôl i arweinydd y ras.

‘Mynd amdani’

“Fel rydyn ni wedi’i weld drwy gydol yr wythnos, eitha’ prin fu’r timau gwibio pan ddaw i’r terfyn a hyn a hyn o fois oedd yno i’w cwrso, felly wnes i jyst meddwl ‘sod it’, fe wnes i ei synhwyro a mynd amdani,” meddai’r Cymro.

“Fe wnes i lwyddo i ddal fy ngafael, er do’n i ddim yn meddwl fy mod i wedi gwneud hynny.

“Roedd hi’n braf iawn cael y fuddugoliaeth honno.

“Fe wnaeth e frifo, yn sicr, ond dim ond am ryw funud, felly gobeithio y bydda i’n gallu gwella’n gyflym ar ei ôl e.”