Mae’r actores Vicky McClure a’i dyweddi Jonny Owen am noddi Clwb Pêl-droed Merthyr y tymor nesaf.

Mae Vicky McClure yn adnabyddus am ei rôl yn y rhaglen ‘Line of Duty’, tra bod Jonny Owen, sydd yn actor a chyflwynydd radio, yn dod o Ferthyr Tudful.

Bydd enw cwmni cynhyrchu newydd y cwpl, BYO Films, yn ymddangos ar siorts y clwb yn nhymor yn 2021-22.

“Dymunwn bob llwyddiant i’r rheolwr a’r tîm y tymor hwn ac edrychwn ymlaen at ddod i lawr pan allwn i gefnogi’r Martyrs,” meddai’r ddau wrth wefan Clwb Pêl-droed Merthyr.

“Mae’r ddau ohonom yn caru’r dref ac yn gefnogwyr brwd o bêl-droed ar lawr gwlad.”

Wrth siarad wedyn ar BBC Radio Wales, dywedodd Jonny Owen fod y ddau yn awyddus i wneud rhywbeth i helpu’r clwb yn dilyn pandemig y coronafeirws – sydd wedi effeithio clybiau ar lawr gwlad ledled y Deyrnas Unedig.

“Mae hi (Vicky) wedi bod yno gyda fi dipyn o weithiau, chwarae teg iddi,” meddai.

“Roedd hi’n canu ar y karaoke i lawr yno ychydig o Nadoligau yn ôl.

“Roedd hi wrth ei bodd ac eisiau gwneud hyn hefyd.

“Mae mor bwysig i glybiau fel Merthyr eu bod yn cael ychydig o help.”

“Hynod o ddiolchgar”

Ychwanegodd y clwb mewn datganiad: “Mae Vicky yn un o actorion mwyaf poblogaidd y wlad ac mae Jonny yn ffigwr uchel ei barch yn y gêm.

“Mae’n fachgen o Ferthyr nad yw erioed wedi anghofio ei wreiddiau.

“Fe’i magwyd fel cefnogwr gyda chysylltiad teuluol cryf â’r clwb ac mae hefyd wedi ein helpu gyda nifer o noddwyr newydd ar gyfer y tymor nesaf ac rydym yn hynod ddiolchgar iddo am hynny.

“Mae ei ddyweddi Vicky McClure wedi bod i Barc Penydarren ac rydym yn edrych ymlaen at eu croesawu pan fyddant yn dod i’n gweld.”