Bydd amddiffynnwr Lerpwl Neco Williams yn colli gêm gynhesu olaf Ewro 2020 Cymru yn erbyn Albania ddydd Sadwrn.

Cafodd Williams ei anfon o’r cae am lawio’r bêl ar ôl dim ond 25 munud yn y gêm gyfeillgar a orffennodd yn 3-0 i Ffrainc ddydd Mercher yn dilyn gwiriad VAR.

Roedd rheolwr Cymru Robert Page wedi gobeithio y byddai Williams wedi cael cyfle i adeiladu ei ffitrwydd cyn y gêm agoriadol Ewro 2020 yn erbyn y Swistir ar Mehefin 12.

‘Anghredadwy’

Dywedodd Page: “Cefais gyfarfod mor hwyr â 10yh neithiwr, ond nid oes sail dros apêl.

“Byddwn yn ei golli yfory. Mae’n anghredadwy, ond dyna ydio ac rydym wedi gorfod newid ein cynlluniau. Mae’n siomedig, ond mae’n rhaid i ni ddod o hyd i ateb.”