Mae Olivia Breen wedi ennill medal efydd yn y naid hir yn nosbarth F38 ym Mhencampwriaethau Ewrop yr IPC yng Ngwlad Pwyl.

Neidiodd hi 4.94m, ei pherfformiad gorau y tymor hwn, gyda’i naid olaf ond roedd hi eisoes wedi sicrhau’r fedal erbyn hynny.

Dywedodd hi ar ôl ei buddugoliaeth ei bod hi’n “symud yn y cyfeiriad cywir” wrth baratoi ar gyfer y Gemau Paralympaidd yn Tokyo.

Dechreuodd hi’r gystadleuaeth gyda naid o 4.61m i’w symud hi i safleoedd y medalau.

Neidiodd hi 4.65m wedyn ond mae’n dweud ei bod hi’n teimlo bod “mwy i ddod”, a chyflawnodd hi hynny cyn diwedd y gystadleuaeth.

Olivia Breen

Gemau’r Gymanwlad: medal aur i Olivia Breen yn y naid hir

Y bara-athletwraig wedi dod i’r brig yn y naid hir
Logo Golwg360

IPC: Aur, arian a record byd i’r Cymry ar y diwrnod olaf

Arian i Laura Sugar yn y 100m T44, ac aur i Olivia Breen yn y ras gyfnewid
Logo Golwg360

Olivia Breen yn dathlu medal efydd

Llwyddiant yn y 100 metr T38