Olivia Breen yn y naid hir
Mae’r Gymraes Olivia Breen yn dathlu wedi iddi gipio medal efydd ym Mhencampwriaethau Ewrop yr IPC yn Abertawe, wedi iddi orffen y ras mewn 13.96 eiliad.

Margarita Gonchareva oedd yn fuddugol wrth orffen mewn 13.44 eiliad, a Sophie Hahn o Brydain oedd yn ail (13.72).

Ar ddiwedd y ras, dywedodd Olivia Breen wrth golwg360: “Dw i jyst yn hapus iawn. Ro’n i am fynd allan a’i gwneud hi.

“Wnes i ddechrau’n dda ac fe wnes i redeg yn dda iawn.

“Fe wnes i deimlo’r ferch o’r Iwcrain yn nesu ata i ac ro’n i jyst yn meddwl ‘rhaid i fi ei churo hi’ ac fe wnes i, felly dw i mor hapus.

“Dyma’r gamp bwysicaf i fi, y 100 metr yw fy mhrif gamp felly dw i’n hapus iawn ’mod i wedi ennill medal.”